MRS. ELINOR EVANS, ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Medi 6fed, 1849 yn Rom, Caerefrog Newydd, o'r darymrediad, yn 37 mlwydd oed, Elinor, gwraig Mr. William R. Evans, o'r lle uchod.

Yr oedd y drengedig yn ferch i William Roberts, Cae'r Doctor Bach, Liandwrog, sir Gaernarfon. Daeth i'r wlad yma yn 1832. Priododd yn New-York, a bu yn aelod yno gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am rai blynyddoedd, ac felly yr oedd yn aelod o'r un cyfundeb yn Rome, pan y bu farw. Dywedai cyn marw, ei bod yn gweled yr Arglwydd Iesu yn ddigon iddi ar gyfer yr amgylchiad hwnw.

Bu farw plentyn iddi, 10 mis oed, tua dwy awr o'i blaen.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1849.