MRS. MARGARET EVANS, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
COFIANT MARGARET EVANS Yr hon a fu farw yn Steuben, swydd Oneida ar Mai 29ain, 1849, yn y 75ain flwyddyn o'i hoedran. Ganwyd gwrthddrych y cofiant hwn yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1774.Ymfudodd i'r wlad hon gyda ei rhieni yn y flwyddyn 1801. Yn mhen ychydig o flynyddau wedi dyfod i'r wlad newydd yma, cafodd y fraint o ddechreu bywyd newydd, ac ymunodd á phobl yr Arglwydd, a bu yn aelod grefyddol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd dros ddeugain mlynedd. Yn ystod ei thymor grefyddol cyfarfyddodd a llawer o dywydd garw, a chafodd brofi gwirionedd yr hyn a ddywedwyd gan ein Harglwydd; 'yn y byd gorthrymder a gewch,' ond yr wyf yn erddu iddi dderbyn cysur cryf i'w henaid yn yr oruchafiaeth a gafodd Crist ar y byd,'myfi a orchfygais y byd.'
Yr oedd y blynyddoedd olaf o'i hoes yn fwy llariaidd ei hysbryd, ac yn fwy nefolaidd ei serchiadau. Ofnai yn aml dwyllo ei hun, ac ymfoddloni ar lai na grym duwioldeb. Cwynai yn fynych o herwydd corff y farwolaeth a phla y galon.
Y mae rhai yn rhoddi ymddiried mawr ar dystiolaeth gwely angau, bydded y bywyd fel y byddo, ond mewn perthynas i'r chwaer hon, nid oedd ganddi ddim i'w ddweyd o'i phrofìad yn ei horiau olaf, ond yr ydym yn hyderu iddi fyw bywyd yr uniawn, ac o ganlyniad i'w diwedd fod fel yr eiddo yntau. Cyfododd yn y boreu fel arferol y dydd y bu farw, a dechreuai ar ei gorchwyl fel arfer. Aeth ei phriod allan dros ychydig o fynudau, a phan ddychwelodd, efe a'i cafodd ar y gwely yn hollol farw.
Bydded bendith ar y tro galarus hwn i'w phriod, er ei ddwyn i ystyriaeth o'i ddiwedd, yw fy ngweddi ar Dduw. Yr ail ddydd ymgynnullodd tyrfa o'i chymydogion a'i chydnabyddion i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol. Gweinyddodd y brawd Richard Jones, (T. C.) ar yr achlysur; yn y tŷ cyn cychwyn, darllenodd a gweddiodd, ac yn y capel, pregethodd oddiwrth Heb. ix. 27. Claddwyd hi yn mynwent Capel y Nant. Trenton, New York.
Robt. T. Owen.