ROBERT G. EVANS. COLUMBUS, WISCONSIN.
Mab ydoedd i Evan ac Elizabeth Evans, ger Columbus, Wisconsin, gynt o'r Pandy, Abercywarch, ger Dinas Mawddwy, swydd Feirionydd, Cymru.Aeth at grefydd (gyda'r Trefnyddion Calfinaidd) pan tua 7 neu 8 mlwydd oed, heb un gefnhogaeth gan rieni na pherthynasau eraill. Ond pan oedd tua 15 neu 18, newidiodd ei le, a hudwyd ef gan ei gyfoedion ieuainc i ymadael a chrefydd, ac felly bu allan am tua dwy neu dair blynedd. Ond pan oedd tuag 20 oed, aeth yn ol at grefydd, a pharhaodd yn ffyddlon hyd ddiwedd ei oes.
Daeth i'r wlad hon 8 mlynedd i fis Mai diweddaf, a bu am bedair blynedd yma a thraw yn nhalaeth Caerefrog Newydd, yna daeth i Wisconsin. Yn mhen tua blwyddyn wedi ei ddyfodiad yma, tarawodd poen yn ei lygaid; a bu yma am yn agos i flwyddyn heb allu gweithio, ac mewn poen dirfawr; ac yn Awst, 1847, aeth yn ol i Utica, Caerefrog Newydd, am gynorthwy meddyg y clywsai son am dano, a daeth yn raddol i weled fel cynt.
Yn mhen tua blwyddyn a haner (Mawrth, 1849,) cychwynodd tua Chalifornia; ac yn rhyw le ar ei daith, tarawodd y dolur rhydd ef yn ysgafn, ac oedodd yn rhy hir heb hysbysu. Methwyd ei adferu er ymdrech dau feddyg; ac yn lle cyrhaedd cyfoeth Califfornia, aeth at ei drysorau yn y nef, lle nad oes lladron yn cloddio trwodd, a'r lle yr ydym yn hyderu y bu yn trysori trysorau er ys blynyddau. Bu farw Mehefin 30ain, 1849, yn tua 32 mlwydd oed.
Fel dyn, yr oedd yn hynaws a chyfeillgar, a phawb o'i amgylch lle bynag y byddai yn ei hoffi yn fawr; ond mae yn debyg y buasai yn well iddo fod yn fwy sefydlog, o rau ei gysar ei hun beth bynag. Cynygiodd amryw gelfyddydau yn yr hen wlad; ond wedi dyfod i'r wlad hon aèth yn saer coed; a dyna yr alwedigaeth a ddylynodd hyd y daith olaf, a gellir priodoli y daith anturus hono i'r un ansefydligrwydd meddwl.
Fel crefyddwr, yr oedd yn esmwyth a diddolur iawn i'w frodyr, yn mhob mau lle y byddai, yn yr hen wlad ac yma. Yr oedd yn fywiog ac ymdrechgar, ac yn ofalus am gynorthwyo gyda'r achos yn ei holl ranau, a thystiolaeth gref yn nghydwybodau pawb a'i hadwaenai, ei fod yn meddu olew gras yn ei galon gyda lamp ddysglaer o broffes.