MR. OWEN GRIFFITHS, STEUBEN, NEW YORK.

OWEN GRIFFITHS, one of the pioneers of Welsh birth who located in Steuben in 1795, came from Carnarvonshire, North Wales.

He made a clearing and built a log house just north of the place owned by the late Dr. Everett, and a few years later built a store and dwelling combined on the east corner of that road and the one leading from Remsen to Sixty Acres. The building was painted yellow, and it was always known as "Store Felen" (Yellow Store).

In this immediate neighbourhood was the nucleus of the Welsh colony that settled here in 1795, and for many years Store Felen was the common meeting place for social chats by the men of that nationality who were more distantly located, while passing to and fro between their homes and Remsen; and here the youth, with inherited physical hardiness from an interminable line of sturdy British ancestors, competed with one another in the athletic sports of the time.

Mr, Griffiths' first wife was named Anne, by whom he had five children : Griffith O.; Lydia, who married Lewis P. Lewis; Elizabeth, who married Richard W. Jones; Cornelius; and Josiah. Mrs. Griffiths died January 12th, 1815, aged forty five years; and by a second wife he had two sons, Owen and Titus.

A narrative history of Remsen, New York.


MR. OWEN GRIFFITHS, STEUBEN, NEW YORK.

Ein brawd, Owen Griffiths, a ddechreuodd broffesu gyda'r Bedyddwyr, oddeutu 40 mlynedd yn ôl. Yr oedd yn hynod o ddiwyd ac ymdrechgar tra y bu gyda hwy. Pan oedd yr eglwys yn wan, gwnaeth ei oreu drwy gyfranu ac ymdrechu, yn ôl ei allu, iddei chynnal. Oddeutu deng mlynedd yn ôl, symudodd i'n tŷ ni i fyw. Ar ôl dyfod atom i gartrefu, byddai weithiau yn dyfod i gapel y Trefnyddion Wesleyaidd i wrando. Ar un tro, arosodd yno fel edrychydd ar amser cymundeb, a theimlai môr gysurus yn ei feddwl, fel yr anturiodd at fwrdd yr Arglwydd fel cymun- ydd rhydd; yna efe a ymunodd a'r eglwys hono, yn Steuben.

Gyda'r eglwys hono (yr ydym yn credu) y parhaodd i fod yn ffyddlon iddei Waredwr hyd angeu. Yn mis Ebrill diweddaf symudodd gyda ni o blwyf Steuben, i blwyf Remsen, yma y lleihaodd ein breintiau eglwysig; ond diolch i Dduw, daeth i feddwl y rhan broffesedig o'r cymydogion i gael society gymysgedig, lle y parhaodd ef i gyfarfod. Yr oedd ef yn dyfod yn fwy effro yn barhaus gyda'r gwaith. Ymddangosai i chwilio, a holi ei hunan, cyn dywedyd ei brofiad: felly byddai yn ofalus i beidio a dywedyd ei bod yn oleu ar ei gyflwr, pan na byddai felly.

Ei glefyd marwol a ddaeth arno trwy gael oerfel trwm. Yn ei glefyd yr oedd yn hynod o amyneddgar ac ymroddus i ewyllys yr Arglwydd. Gofynai brawd iddo, pa fodd yr oedd ar ei gyflwr. 'DioIch i Dduw.' meddai yntau, 'yr wyf yn credu ei fod Ef gyda mi yn y glyn.' Y Sabboth olaf o'i fywyd, dywedodd, 'Yr wyf fi yn eich gadael; peidiwch a galaru o'm hachos i: yr wyf yn credu fy mod yn myned i le gwell.' Gofynwyd iddo, 'A yw y Cyfaill gyda chwi yn y tonau?' 'Ydyw, ydyw,' meddai yntau, 'mae wedi adddaw bod; ac yr wyf yn teimlo ei fod gyda mi, yn un â'i air.' Felly y parhaodd i dystio ei ymddiried yn ei Waredwr, pan wedi colli ei leferydd, drwy wneuthur arwydd â'i law.

Hunodd yn dawel yn yr angeu, Chwefror 7fed, 1849, yn 75 mlwydd oed.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1849.