MR. JOHN J. GRIFFITHS, REMSEN, ONEIDA, NEW YORK.

Yn Steuben, Gorphenaf 15fed, 1849, yn 24 mlwydd a 5 mis oed, yn mlodau ei ddyddiau, Mr. John J. Griffiths, mab i Mr. John T. Griffiths, gynt o'r Crigau mawr, Llanfaelrhys, Lleyn, a'i briod Mrs. Mary Griffiths.

Ei gystudd oedd ryw fath o ddarfodedigaeth. Yr oedd ynh lled wael ei iechyd ers dros flwyddyn; ond gwellaodd yn weddol o hyny, hyd yr Hydref diweddaf, pan y dygwyddodd weithio yn o galed wrth gymynu pren ger tŷ ei dad, ac yn ei chwys safodd i siarad yn lled hir a rhyw ddynion a alwent heibio iddo, a thaflwyd ef drwy hyny dan effeithiau anwyd trwm iawn. Ond gwellhaodd drachefn yn lled dda, ac er mwyn cadarnhau ei iechyd, fel yr oeddid yn gobeithio, aeth i ymweled ag ewythr iddo i Philadelphia, a threuliodd yno rai wythnosau. Ond drwy ei bod yn dywydd oer, cafodd anwyd trymach drachefn, a dychweiodd yn ol a'i iechyd yn bur wan, tua naw wythnos cyn ei farwolaeth, ac o hyny allan, er ei fod weithiau yn well ac weithiau yn waeth, nychu yn raddol a wnaeth nes terfynu ei yrfa ddaearol ar y dydd a nodwyd.

Yr oedd yn ddyn ieuanc dystaw, tirion ac addfwyn, a theimlir yn y teulu ac yn mhlith ei luosog berthynasau a'i gydnabyddiaeth alar mawr ar ei ol. Effeithiodd ei farwolaeth ddwysder mawr ar yr ardal yn gyffredinol.

Claddwyd ef yn mynwent Capel Uchaf, Steuben. Ar achlysur y gladdedigaeth daeth lluaws mawr yn nghyd, ac yn eu plith dorf luosog o ieuenctid, a phregethwyd yn Saesoneg a Chymraeg gan y brodyr R. Everett a M. Roberts.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1849.