MRS. MARY GRIFFITHS, CONSTABLEVILLE, LEWIS CO., NEW YORK.
Yn ardal Constableville, swydd Lewis, Efrog Newydd, Tachwedd 17eg, Mrs. Mary Griffiths, gwraig Mr. John Griffiths, diweddar o Benmynydd, Steuben.Merch ydoedd i Mr. John G. Williams, Steuben, gynt o ardal Bwlchtocyn, Lleyn. Yr oedd yn ferch hawddgar, dra gofalus dros ei thad sydd yn wael ei iechyd, ac wedi bod yn ymgeledd dda i'w mam-yng-nghyfraith yn ei chystudd hirfaith hyd ei marwolaeth. Yr oedd yn aelod gymeradwy o eglwys gynulleidfaol Penymynydd.
Teimlir y golled yn fawr ar ei hol gan ei phriod, ei thad, ei chwaer, a cylch helaeth o gydnabyddion serchog.
Claddwyd hi ym mynwent Penymynydd, a Phregethwyd ar yr achlysur gan R. Everett a M. Roberts, Remsen.