MRS. MARGARET HUGHES, YORK MILLS, UTICA, EFROG NEWYDD.
Yn York Mills, C. N., ar ol byr gystudd, Medi 28ain, Mrs. Margaret Hughes, gwraig Mr. Robert Hughes, yn 60 mlwydd oed.Merch ydoedd i'r diweddar William a Margaret Jones, Brynengan, Llangybi, swydd Gaernarfon, a chwaer i Mr. Peter Jones, (Pedr Fardd) o L'erpwl.
Cafodd y fraint o ymwasgu at bobl Dduw yn 10 oed, a derbyniwyd hi i gymundeb yr eglwys yn 13 oed, a chafodd y fraint o fyw bywyd tdwiol a harddu ffỳrdd sancteiddrwydd hyd nes iddi huno yn yr Iesu. Ar ddydd ei chladdedigaeth, yn yr addoldy Cymreig gweinyddwyd y gwasanaeth yn Saesoneg gan y Parch. Mr. Madison o Whitesboro, yn ol trefn Eglwys Loegr, a chafwyd pregeth yn yr hwyr gan y brawd Tudor Jones, a chladdwyd hi mewn modd parchus yn nghladdfa y pentref yma.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1849
MRS. MARGARET HUGHES, YORK MILLS, UTICA, EFROG NEWYDD.
COFIANT MARGARET HUGHES, YORK MILLS, GER UTICA. Barchedig Syr, - Dymunaf arnoch roddi yn eich greal hanes marwolaeth fy anwyl briod, Margaret Hughes, yr hyn a gymerodd le Medi 28ain, ychydig fynudau cyn 3 ar gloch yn y boreu, yn y 60fed flwyddyn o'i hoedran.Yr ydoedd yn ferch i W. Jones, o Fryn Engan, plwyf Llangybi, swydd Gaernarfon, Cymru, awdwr 'Galareb Hanes Hen- aint' (gwel' Cyfaill' am Tach.1841), a chwaer i Peter Jones, Liverpool (sef Pedr Fardd).
Cafodd ei galw yn foreu i winllan Iesu Grist. Pan oedd yn blentyn 10 oed, bu diwygiad yn yr ardal, yn ngwanwyn y flwyddyn 1800, a daeth hithau yn un o'r rhai cyntaf i gymdeithas y Methodistiaid Calfinaidd yn Mryn Engan, a derbyniwyd hi yn gyflawn aelod pan yn 13 oed; ac ni bu dim gan neb yn ei herbyn, mewn gair na gweithred: ond arweiniodd fywyd Cristion hyd y mynudau olaf o'i bywyd - yr oedd fel tywysen yn addfedu yn barhaus i'r cynhauaf.
Ym moreu ei hoes yr oedd yn byw yn ymyl y capel. Bu yn garedig iawn at achos Duw. Llawer gwaith y bu ar hyd y nos yn gweithio crysau i bregethwyr tlodion ar eu teithiau, a chyfranai atynt heblaw hyny; ond ni soniai hi ei hun byth am hyny; ond y mae tystion digonol hyd yn nod yn America yn hysbys o'r peth. Yn fyr, bu yn ffyddlon hyd angeu, yn ôl ei gallu at yr achos goreu. Un diwrnod, yn ddiweddar, daethym i mewn i'w hystafell, a hithau yn canu y pennill hwnw wrthi ei hunau:-
'Mi gysgaf hûn yn dawel,
Dros ennyd yn y grafel,
Nes dattod trefn y rhod.'
A phan yn dod at y geiriau -
'Ac yna mewn hedd,
Cyfodaf o'm bedd,
Ar ddysglaer wedd fy Mhriod,'
yr oedd yn eu dyblu mewn hwyl nefolaidd ar y pryd.
Ar ddydd ei chladdedigaeth, sef Medi 30ain, yn yr addoldy Cymreig, gweinyddwyd y gwasanaeth yn Saesonaeg, gan y Pareh. Mr. Madìson, o Whitesboro, yn ôl trefn Eglwys Loegr.
Claddwyd hi mewn modd parchus yn nghladdfa y pentref yma, i orphwys hyd foreu caniad yr Udgorn mawr. Pregethodd y Parch. Tudor Jones ar yr achlysur yn yr hwyr, oddiar Ioan xi. 25.
Eich cyfaill galarus,
ROBERT HüGHES.