MRS. CATHERINE JONES, SIXTY ACRES, STEUBEN.

Yn ardal y Sixty Acres, Steuben, Mai 9fed, 1849, Mrs. Catherine Jones, gwraig Mr. Hugh Jones.

Ganwyd hi mewn lle a enwid Siop y Rhos, ym mhlwyf Bryncroes, Lleyn, Gogledd Cymru, ar yr 22ain, o Fai 1771, ac felly yr oedd yn mron a chyrrhaedd yn 78 mlwydd oed.

Bu ei thad farw pan oedd hi tua 8 mlwydd oed, a chymerwyd hi felly yn ieuanc i fyw gyda modryb iddi.

Daeth drosodd i'r America yn yr haf yn y flwyddyn 1800. Ymunodd mewn priodas gyda Mr. Hugh Jones yn mhen tua 5 mlynedd, sef 44 o flynyddoedd i'r flwyddyn a'r mis y bu farw. Bu iddynt un ferch yr hon a gladdwyd yn ieuanc yn Philadelphia. Bu y teulu hwn yn byw yn ninas Philadelphia dros amryw flynyddoedd, ac ar yr 16eg o Fai, 1818, cychwynasant eu taith tua Steuben, lle y maent wedi gwneud eu trigfa hyd yn awr.

Bu Hugh Jones a'i briod yn byw lawer o flynyddoedd ar eu fferm ger y capel Ucha' Steuben, a thua dwy flynedd yn ol symudasant i'r annedd yn Sixty Acres, lle y gorphenodd ein hanwyl chwaer ei gyrfa ddaearol. Yr oedd yn hoffi yn hoffi gwrando yr efengyl o'i hieuenctid, a bu yn ddeiliad cymhelliadau crefyddol ar lawer tro, a thuag un mlynedd ar ddeg yn ol derbyniwyd hi a'i phriod gyda eu gilydd yn aelodau o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben, lle y parhaodd ei chysylltiad eglwysig hyd ei marwolaeth.

Yr oedd yn ddynes lariaidd ac addfwyn, a thra siriol bob amser. Ar ei gwely angau yr oedd yn dangnafeddus a thawel, a'i phwys, (fel y mae ein hyder) ar ei Gwaredwr mawr. Ychydig oriau cyn marw galwodd ei phriod at ochr y gwely, a dywedodd ei bod yn myned i'w adael, - a chynghorodd ef yn y modd mwyaf syml a serchog i fyw yn dduwiol, gan sicrhau iddo na byddai y byd hwn a'i bethau o ddim gwerth iddo yn y bwlch lle yr oedd hi ynddo yn awr. Tra dwys oedd ei chyngor i bawb ohonom i fyw yn dduwiol, a pheidio gosod ein bryd ar ddim arall. Rhoddwyd ei rha farwol i orphwys yn mynwent yr addoldy lle y perthynai fel aelod, a phregethwyd ar achlysur y gladdedigaeth gan R. Everett i dorf fawr.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mehefin 1849