MR. DAVID W. JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Awst 30ain, 1849, David W. Jones, yn 3S oed. Claddwyd ef blwyddyn i'r un dydd ag y cychwynodd o Liverpool.

Yr oedd yn blaenori gyda'r canu yn addoldy yr Annibynwyr yn Utica. Yr oedd yn ffyddlon iawn gyda'r achos yn mhob ystyr, a thra chymeradwy gan bawb. Daliai ar ffyrdd tylwyth ei dŷ ac arferai a chadw addoliad i Dduw yn ei deulu bob dydd. Bwriadai roddi Llyfr Tonau allan y gauaf dyfodol, pe yn fyw. Derbyniwyd ef yn aelod o eglwys Crist yn Ebenezer, swydd Gaernarfon. Mae ei fam-eglwys yn teimlo colled ar ei ól hyd y dydd hwn, ac y mae ei chwaer yn Utica yn teimlo ei cholled yn fawr hefyd.

Pregethwyd y Sabboth ar ól ei gladdu ar yr achlysur gan E. Griffith. Dichon y ceir defnyddiau o'i fam eglwys at yr hyn sydd genym i roddi mwy o hanes ei fywyd drwy y Cenhadwr. Gadawodd wraig a 6 o blant ar ei ól i ofal Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1849.