MRS. ELIZABETH JONES, PALMYRA, OHIO.

Awst 28ain, Mrs. Elizabeth Jones, priod Mr. Evan Jones, Palmyra, ar ol cystudd trwm am bythefnos, sef, clefyd y gwaed.

Ar y 29ain, ymgasglodd lluaws o'i hen ffrindiau yn nghyd i ddangos eu parch olaf iddi. Yn y ty, cyn cychwyn y corph, darllenodd a gweddiodd y Parch. J. E. Davies, (T.C.) Claddwyd hi yn nghladdfa yr Annibynwyr wrth y capel Rehoboth; pregethodd John Williams yn y capel.

Yr oedd Mrs. Jones yn ferch i Mr. Lewis, Cwmcelli, plwyf Talyllyn, Meirionydd. Yn y flwyddyn 1819, ymunodd mewn priodas a Mr. Evan Jones, Vach Goch, yn agos i Towyn, Meirionydd. Symudasant o'r Vach Goch i Palmyra yn Ohio yn y flwyddyn 1843. Prynasant dir, lle yr oeddynt yn byw yn gysurus arno hyd ei marwolaeth, pan y gadawodd ei hanwyl briod, dau fab a dwy ferch mewn dwfr alar.

Magodd ei phlant yn anwyl, tyner a gofalus, a chlywais ei mab yn tystio iddynt gael llawer o gynghorion gwerthfawr ganddi wrth ei magu. Yr oedd yn gymdoges gall, garedig, heddychlon, a pharod i gynorthwyo lle y byddai angen.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1850