MRS. ELIZABETH JONES, BLUE MOUNDS, WISCONSIN.

Yn Blue Mounds, Wisconsin, o'r un clefyd, Hydref 6ed, Elizabeth, gwraig Thomas Jones, yn 26 ml, oed.

Yr oedd Mrs. Jones yn ferch i Mr. Edward Edwards, Ty'n y Ffordd, cymydogaeth y Bala.

Y Sabboth cyntaf y pregethais ar y Blue Mounds, tair blynedd i'r Gorphenaf diweddaf, a'r bregeth gyntaf erioed yn y lle hwnw, yn yr hwyr cadwasom gyfeillach grefyddol, - a Mrs. Jones oedd y gyntaf a broffesodd broffes o Fab Duw yn y lle. A hi oedd y gyntaf o aelodau yr eglwys fechan hon a flaenodd tu fewn i'r llen. Yr oedd y chwaer anwyl, ddistaw, ddiwyd a duwiol hon, bob amser fel halen yn halltu, a'i lamp yn llewyrchu, yn ei theulu, yn yr eglwys a'r ardal. Yr oedd fel gwraig yn llond ei lle, - fel mam yn dyner - fel cristion yn foneddigaidd.

Bu farw fel ag y bu byw yn ymyl Duw. Diangodd mewn mawr lawenydd a llawn sicrwydd ffydd. Pregethwyd gan yr ysgrifenydd i dorf luosog o Gymry a Saeson.

Hefyd, ar Hydref 2il, bu farw mercb fach i Mr. Thomas ac Elizabeth Joues, yn 13 mis oed.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1849