MR. JOHN JONES, NEW YORK.
Mehefin 23ain, 1849, yn y ddinas hon, ar ôl pedair-awr- ar-hugain o gvstudd gan ddirdyniadau y Colera, yn 45 mlwydd oed, Mr. John Jones, mab i Henry ac Elinor Jones, Penrhvndeudraeth swydd Feirionydd.Bu yn aelod ffyddlon gyda'r Bedyddwyr Seisonig yn y ddinas hon am 18 mlynedd. Gadawodd wraig i alaru ar ei ôl.
Ar y 24ain hebryngwyd ei ran lygredig i gladdfa y Bedyddwyr, mewn hyder y bydd iddo gael ei gyfodi yn anllygredig.
Nid oes dim pla na heintiau,
'Rochr draw, a.y.,
Lle mae trigfanau'r seintiau,
'R ochr draw;
Ni bydd na phoen na galar,
Yn mysg y dyrfa ddysglaer,
Ond pawb mewn perffaith fwynder,
'R ochr draw, a.y.,
Mewn hedd ar wedd eu gwiw-Ner,
'R ochr draw.
THOMAS WILLIAMS.