MRS. MARY O. JONES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref laf, 1849, bu farw, wedi hir gystudd, o'r Parlys, Mrs. Mary O. Jones, gwraig Mr. Griffith O. Jones, Peu-y-graig, Remsen, yn 61 mlwydd oed, gan adael pump o blant yn nghyda phriod serchoglawn i alaru eu colled ar ei hol.

Yr oedd yr hen chwaer hon yn enedigol o blwyf Bryncroes, sir Gaernarfon, Cymru. Merch ydoedd i Mr. Griffith a Jane James, Berth Aur, Penllech. Daethant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1823, ac ymsefydlasant yn ardal Pen-y-graig; ac yno y buont yn preswylio yn gysurus hyd y flwyddyn 1847, pryd y symudasant i bentref Remsen. Cafodd ein chwaer ymadawedig yn nghyda'i phriod y fraint o ymuno âg achos ei Gwaredwr, gyda y Trefnyddion Calfinaidd, yn eglwys Pen-y-graig; ac yma y parhausant yn aelodau ffyddlawn am tuag 20 mlynedd.

Yr ydym yn ddyledus i'r meirw am yr hyn oedd wirionedd yu eu cymeriad. Felly addas ydyw dyweyd am ein hen chwaer hon, ei bod yn un nodedig mewn gostyngeiddrwydd ysbryd: yr oedd fel pe buasai wedi ei ffurfío yn hollol yn mould y gwirionedd hyny, "Gan dybied eich gilydd yn well nachwi eich hunain." Prawf amlwg o hyn ydoedd, na chlywid byth mohoni yn dyweyd yn ddrwg am neb: yr oedd yn hynod o ddystaw yn ei chymydogaeth, a cherid hi yn fawr gan ei chymydogion.

Cafodd gystudd lled drwm am y 3 blynedd olaf o'i hoes, yr hyn a ddyoddefodd yn dra thawel. Achosodd ei chystudd amddifadrwydd mawr o foddion gras iddi, yn enwedig yn ei dyddiau olaf; ond dangosai, mai "Trigfan y tŷ, a lle preswylfa gogoniant y Goruchaf," ydoedd ei lle mwyaf hoff, trwy argymhell ei phriod a'i phlant, ac eraill, i fyned yno, yn hytrach nag aros i wasanaethu arni hi, pryd mewn gwirionedd y gellid barnu mai hyny oedd ddyledswydd.

Dywedai yn ei chystudd, mai y pwngc mawr am dani ydyw bod yn barod erbyn angeu; a gallai hysbysu wrth ei pherthynasau, yn gadarn, fod ganddi farn a mater da. Cynghorai, tra y gallai, ei phlant a'i chymydogion i ymwneyd llawer ag achos crefydd, mai o hyny y daw y daioni penaf.

Hydref 3ydd, hebryngwyd ei rhan farwol gan dyrfa luosog, o'i chyfeillion a'i chymydogion, i fynwent Pen-y-graig, lle y gorphwys yn dawel hyd foreu mawr caniad yr Udgorn diweddaf. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. David Williams, Remsen, oddiwrth Salm cxvì. 15 - "Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef."
Holland Patent. David Williams.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1850.