MR. THOMAS JONES, PEACH BOTTOM, PENNSYLVANIA.
Awst 27ain, 1849 yn Peach Bottom, Pennsylvania, yn 29ain oed, o'r Dwymyn Dyphoid, Thomas Jones, mab i'r diweddar Robert Jones, Tan-y-bryn, Trefriw, sir Gaernarfon.Daeth i'r wlad yma ar y laf o'r mis hwnw; tiriodd yn Nghaer Efrog Newydd, a bu yn aros yma ychydig; ond wedi methu cael un gorchwyl cymhwys, aeth yn ei flaen i'r lle uchod. Cafodd ei gymeryd yn glaf ar y ffordd, a thrwy gryn anhawsdra y cyrhaeddodd Peach Bottom.
Yn nhŷ Mr. John Pritchard y bu farw, a thra addas i'w nodi, na bu dim yn ddifFyg arno y gallasai medr meddyg, gofal cyfeillion, a charedigrwydd teuluaidd ei weini iddo. Yr oedd yn aelod o gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd er ys llawer o flynyddoedd, a bu yn aros yn Liverpool am y ddwy flynedd ddiweddaf, lle yr oedd yn nodedig o wasanaethgar gyda'r cerddoriaeth eglwysig.
Dros yr ychydig yr arosodd yn y ddinas hon, yr oedd wedi ennill sylw a pharch y cyfeillion Methodistaidd yn neillduol. Yr oedd ei ostyngeiddrwydd diledrith yn gysylltiedig a'r fath ddoniau gyda'r canu, yn pery ei fod yn dra hoffus ganddynt, ac yr oeddent yn gobeithio cael ei wasanaeth yn barhaus, ond nid felly y rhyngodd bodd i'r Hwn sydd yn trefnu y cwbl yn ôl cynghor ei ewyllys ei hun. Cafodd gymhorth i ddwyn tystiolaeth dda ar ei wely angau, a bu farw yn orfoleddus. Gofynai Mr. Pritchard iddo, a oedd arno ofn marw? 'Nag oes,' eb efe, 'canys byw i mi yw Crist a marw sydd elw.' 'D oes dim bwrw arfau yn y rhyfel yma, a oes? ni ddarfu i mi feddwl ei bod yn frwydr môr boeth.' Canodd hefyd y pennill -
'Boddlonodd pawb trwy'r nef a'r llawr,
Groeshoelio'r Oen ar bren;
Mae'r 'wyllys genyf finau'n awr
Roi'r goron ar ei ben.
Yr oedd ei glefyd yn ei amser diweddaf, yn effeithio rhwyfaint ar ei synhwyrau; eto yr oedd yn synhwyrol gyda'i fater crefyddol. Gofynai Mr. P. iddo. a oedd yn adnabod Iesu Grist? 'Gwelais ef unwaith,' atebai. 'O Iesu anwyl, dacw fo,' a chan chwareu ei ddwyfraich megys mewn hwyl nefolaidd, parhëai i ganu, nes iddo huno yn yr angau. Ni ddyellid yr hyn a ddywedai, ond y geiriau, 'Iesu Grist anwyl.' Canodd lawer yn fyw, canodd wrth farw, ac yr ydym yn hyderu y cana yn dragywyddol.
Ei gyfaill a'i gydymaith,
OWEN JONES.