THOMAS JONES. COLUMBUS, WISCONSIN.

Ewythr i'r un blnenorol, o gefnder ei dad, a fu farw, o'r un clefyd, sef Thomas Jones, ger Columbus, Wisconsin. Ymfudodd o Nantniwlen, ger Dinas Mawddwy, Cymru, gyda ei ail wraig a phump o blant, yn y flwyddyn 1845. Bu am agos i flwyddyn yn Marcy, swydd Oneida, Caerefrog Newydd, yna daeth i Wisconsin, a sefydlodd yn agos i Columbus.

Bu farw Tachwedd 7fed, wedi bod wythnos yn glaf. Y 9fed hebryngwyd ei gorff i dŷ ei hir gartref gan dorf o'r Cymry, a phregethodd y Parch. H. Jones ar yr achlysur ar ol claddu, oddiar Exod. 3: 14. Mae gweddw a phedwar o blant yn galaru ar ei ol, heblaw ei fab o'r wraig gyntaf, sef John T. Jones, Turin, swydd Lewis, C. N.

Ymunodd a'r Trefnyddion Calfinaidd tua 12 mlynedd yn ol. Yr oedd yn hynod o ffyddlon a gofalus am ddylyn ordinhadau crefyddol yn yr hen wlad; a llawer o dristwch i'w feddwl oedd ei fod yn annghyfleus yma i'w dylyn mor gyson. Yr oedd yn nodedig hefyd am ddwyn ei blant i fyny yn grefyddol.

Ni ddywedodd ond ychydig o'i brofìad pan yn glaf. Dywedai yn fynych, "Y dydd hwnw y derfydd am ei holl amcanion ef." Yr oedd ei ddiffyg o ddylyn y moddion fel y bu yn gwmwl ar ei feddwl, ond eto dywedai ei fod yn gobeithio yn gryf iddi droi yr ochr oleu. Soniai lawer y dydd olaf am Iesu Grist, ond yn rhy floesg i'w ddeall yn dda; un o'r pethau olaf a ddeallasom oedd darn o'r hen benill hwnw -
"O cymer Iesu fi fel yr wy'," a.y.

David G. Evans.
John J. Roberts.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1850.