WILLIAM JONES. WATERTOWN, WISCONSIN.
Ionawr 3ydd, 1849 yn Watertown, Wisconsin, Mr. William Jones, yn ddiweddar o'r Gelli, Llanfihangel-y-Penant, swydd Feirionydd, Cymru.Ymfudodd i'r wlad hon yn mis Mehefin diweddaf. Bu yn aelod o eglwys y Trefnyddion Calfinaidd am yn nghylch 35 o flynyddoedd.
Dywedai ychydig cyn marw, ei fod yn dawel iawn wrth edrych ar angeu: ei fod ef wedi rhoddi ei hun yn gwbl i Grist er ys llawer blwyddyn, a'i fod yn teimîo mai 'Gwyn eu byd pawb a ymddiriedo ynddo ef.'
Hebryngwyd ei weddillion i gladdfa Watertown ar y 5ed, er galar mawr i'w wraig a'i blant, y rhai y bu yn ddiwyd yn eu haddysgu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.