MR. WILLIAM JONES, STEUBEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Yn mhlwyf Steuben, Hydref 9fed, ar ol tua thridiau o gystudd trwm, Mr. William Jones, Bryn Poeth, yn 68 mlwydd a 2 fis oed, gan adael ar ei ol yn alarus ei weddw, un ferch a dau o feibion.Ganwyd ef mewn ffermdy o'r enw Bryn Poeth, yn Uwch-y-Mynydd, Lleyn, swydd Gaernarfon, yn y flwyddyn 1781, lle y buasai ei hynafiaid yn preswylio ers llawer o flynyddoedd.
Ymfudodd y teulu i America yn y flwyddyn 1817. Buont yn byw yn ardal Utica o 7 i 8 mlynedd, ac yn Steuben ar y fferm lle y bu farw er's 23 o flynyddoedd i'r Gwanwyn diweddaf.
Ei ran farwol ef osodwyd yn y bedd yn mynwent Capel y Nant, Steuben, yn ngwyddfod torf syml o'r ardalwyr, a pbregethwyd ar yr achlysur gan R. Everett, a David Williams, Remsen, diweddar o Lanidloes.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1849
MR. WILLIAM JONES, STEUBEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Yr hwn a fu farw Hydref 9fed, 1849, yn 68 mlwydd a 2 fis oed.Brodor oedd y trengedig o Aberdaron, Lleyn, Gogledd Cymru, lle hefyd y treuliodd foreuddydd ei oes. Yn y flwyddyn 1813, ymunodd mewn priodas â Gaynor Hughes, yr hon a fu yn briod anwyl ac amgeleddgar iddo hyd angeu. Hwyliasant dros yr eigion dyfrllyd i America yn y flwyddyn 1817. Treuliasant rai blynyddoedd yn nghymydogaeth Utica, lle y ganwyd iddynt ddau o feibion ac un ferch; ond yn y flwyddyn 1826 daethant yn mlaen i Steuben, a chartrefasant yn agos i gapel y Nant. Buont fyw yn gysurus yma am lawer o flynyddoedd, ond nid heb gyfarfod â phethau chwerwon; cawsant brofedigaeth lem yn 1836, yn marwolaeth merch hoff yn 16 mlwydd oed,yr hon oedd, nid yn unig yn anwyl yn ngolwg ei rhieni, ond gan bawb o'i chydnabod.
Cafodd gwrthrych ein cofiant anhwylder mor bell yn ol a'r flwyddyn 1823, yr hyn a achosodd ddiffrwythdra yn ei aelodau, fel na fedrai wneyd nemawr o ddim drosto ei hun mwy, er fod iechyd cyffredinol ei gyfansoddiad yn parhau yn ganolig o dda. Gwaethygodd drachefn yn 1828, a gwaethygu a wnaeth yn raddol bob blwyddyn hyd y 6ed o Hydref diweddaf, pryd yr ymwelodd angeu âg ef wedi ei lawn awdurdodi i roddi i'r babell frau y ddyrnod olaf, a boreu y 9fed ymollyngodd y tŷ o bridd, a chymerodd y preswylydd ysbrydol ei ehedfa at Dad yr ysbrydoedd, yr hwn a'i rhoes ef.
Gadawodd weddw alarus, un ferch a dau o feibion. Nid ymunasai William Jones erioed âg un gangen o eglwys weledig Crist ar y ddaear, eto yr ydym yn hyderu ei fod wedi diangc. Tystiai mewn geiriau eglur, ei fod wedi cyflwyno ei hun i'r Arglwydd er ys llawer blwyddyn, a'i fod yn credu ei fod Ef yn abl i'w achub i fywyd tragywyddol. Gweddiai lawer nos y 6ed. Canai hefyd, "Croesau trymion sydd yu felys," a.y. Dywedai fod yn well ganddo farw, na byw ddim yn hŵy nag oedd yn rhaid dyoddef cystudd corff - fod yn well ganddo farw a myned at ei Dad. "O, amser," eb efe, "brysia i mi gael myned adref at fy Nhad." Mewn atebiad i'w ferch, y prydnawn cyn ei farwolaeth, dywedai ei fod yn cael cysur yn y pennill - "Os yw 'ngofidiau yn y byd i bara hyd y diwedd, o fewn y nef fe dderfydd hyn, troir tristwch yn orfoledd." A'r ail bennill hefyd a ganai yn hynod o beraidd tra y parhaodd ei nerth - "Pryd hyn pereiddia Duw ar g'oedd," a.y. Tua'r hwyr, gwaeddodd allan, "Wel, wel, bobl, bobl, yr wyf fi ar derfyn byd tragywyddol; 'tybed 'y mod i'n barod" - ac adroddai y pennill "Dyma Frawd a anwyd ini," a.y.
Ar y lOfed, hebryngwyd ei gorff i fynwent capel y Nant. Yn y capel, cyn claddu, pregethodd y Parch. R. Everett (A.) yn Saesonaeg, oddiar Mat. xxiv. 46; a'r Parch. D. Williams, Remsen (T. C), yn Gymraeg, oddiar 2 Cor. v. 10.