MRS. ELIZABETH MCKINSIE, NEW YORK.
Yn New York, Gorphennaf 20fed, o'r Colera Asiaidd, Mrs. Elizabeth McKinsie, yn 76 mlwydd oed.Ymfudodd i America o blwyf Aberdaron, tua 49 mlynedd yn ol.
Yr oedd yn aelod ffyddlawn o'r eglwys Gymreig yn Heol Broome er ei ffurfiad cyntaf.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1849
MRS. ELIZABETH MCKINSIE, NEW YORK.
20fed Gorffennaf, 1849, yn y ddinas hon, o'r Colera Asiaidd, yn 76 mlwydd oed, Elizabeth McKinzie.Ymfudodd yma o blwyf Aberdaron, sir Gaernarfon, naw mlynedd a deugain yn ôl. Yr oedd yn aelod o gyfundeb y T. C. yn Pen-y-caerau cyn ymfudaw, a daliodd i lynu gyda'r achos mawr hyd ei diwedd.
Tua 15 mlynedd yn ôl, ar dderbyniad person at y T. C. yn y ddinas hon, nad oedd hi yn barnu y gallai fod yn gysurus yn yr un gyfeiliach, ymuuodd a'r eglwys Bresbyteraidd; ac yn aelod o'r eglwys hono y parhaodd hyd ei diwedd. Tra bu y ddwy eglwys yn cydaddoli yn ddiweddar yn y ddinas yma, ymddangosai yn foddlon iawn, a chwynai wrth son am yr ymadawiad pan elai y T. C. i'w capel eu hunain; ond ni chafodd fyw i weled yr ymadawiad: yr oedd gyda ni ar agoriad y capel, a chanddi fasged - nid fawr o fwyd i'w ranu i ddyeithriaid rhwng yr oedfaon, ac erbyn y Sabboth canlynol yr ydym yn hyderus gredu ei bod lle y mae -
'Pawb o'r seintiau yno'n un,
Heb neb yn tynu'n groes;
Yn moli'r Duwdod yn y dyn,
A chofìo angeu loes.'
Ffyddlon iawn y bu hi yma, cyson yn mhob moddion crefyddol, ac haelionus hyd eithaf ei gallu at bob achos da. Cyfranai at draul y naill enwad crefyddol fel y llall ar achlysuron cyhoeddus, a theimlai awyddfryd mawr gynnorthwyo lledaeniad addysg grefyddol dros y byd. Dangosai yn ddiweddar sêl mawr i gael anfon llyfrgell i ryw sefydliad amddifad yn y Gorllewin.
Ar ddymuniad ei meibion ar eglwys i ba un y perthynai, traddodwyd pregeth ar achlysur ei marwolaeth gan y Br. W. Rowlands, yn nghapel y Presbyteriaid Cymreig, brydnawn Sabboth y 20ain, oddi-ar Marc xiv. 8.