JOHN OWEN. 'MARW AR Y MOR'.

Gwr o'r enw John owen, o Gilfachwydd, ger Dolgellau, yn nghyda'i wraig a'i blentyn, yn mudo ar y llong 'Yeoman' o Liverpool i'r ddinas hon, a fuont feirw cyn cyrhaedd tir; bachgen bychan i'r wraig hefyd, o'r enw William Williams, a gyrhaeddodd i'r Hospital, Mai 7fed, ond bu farw ar y 9fed.

Dywedir fod peth eiddo gan Mr. Owen yn dyfod i'r wlad yma, yr hyn a gymerwyd gan un Robert Jones, cefnder i Mr. Owen, i'r dyben mae yn debygol o'u trosglwyddo i'w berthynasau agosaf. Mae chwaer i'r trengedig John owen, yn briod a Mr. William Matthews, Cuyahoga Falls, Ohio. Bu yn aros rai blynyddoedd yn Utica, ac wedi hyny yn Racine, Wisconsin.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1849.