MISS MARY PARRY, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

COFIANT MARY PARRY, UTICA, Yr hon a fu farw Hydref 8fed, 1849. Merch ydoedd Mary Parry i Mr. Daniel ac Ellinor Parry, gynt o Landwrog, swydd Gaernarfon, Cymru.

Ymfudodd o Gymru i'r wlad hon gyda'i rhieni yn mis Ebrill, 1848, a thiriodd yn Boston, Massachusetts., ar yr 17eg o fis Mai canlynol; wedi hyny daeth gyda'i rhieni i'r ddinas hon; ac ar yr amser a nodwyd uchod, bu farw o Glefyd y Gwaed, yn 15 mlwydd oed. Y trydydd dydd wedi ei marwolaeth, ymgasglodd Cymry ac eraill at dŷ Mr. William Parry, (canys yno yr oedd ei chorff,) ac awd oddiyno i addoldy y Trefnyddion Calfinaidd yn y ddinas hon, a phregethodd yr ysgrifenydd ar yr achlysur, oddiwrth Phil. i. 21.—'Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw.'

A chyflawnwyd y gwasanaeth arferol wrth y bedd gan yr un. Yr oedd gwrthrych ein cofìant yn un obeithiol iawn. Yr oedd fel rhosyn hardd yn dechreu agor a pherarogli o'i chwmpas; ond buan y torwyd hi ymaith, a chiliodd allan o'n golwg: eto mae ei henw a'i hymddygiadau gweddaidd mewn coffadwriaeth melys genym. Yr oedd o ran ei thymher naturiol yn un fwyn, dyner a thawel, ac yr oedd hyn yn sugno serchiadau pawb o'i chydnabod tuag ati. Yr oedd yn wrthrych addas i'w hefelychu yn hyn gan ei chyd-ieuengctyd. Cafodd y fraint o'i dwyn i fyny yn eglwys Dduw yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, a chafodd ei haddysgu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd o'i mebyd. Crefydd a'i phethau oedd ei phrif hyfrydwch; ac ymdrechodd i ddilyn moddion gras yn gyhoeddus ac yn neillduol; a'i phleser oedd cael gwneyd yn ôl ei gallu dros achos yr Arglwydd: ac yr oedd yn un o'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef.

Nid oedd ei chystudd yr hwn y bu farw o hono ond byr, sef ychydig ddyddiau; ac ni chafodd nemawr o hamdden o herwydd ei phoenau dirfawr i ymddyddan nemawr i ddim. Ond clywyd hi yn coffau y geiriau hyny, 'Am hyny byddwch chwithau barod.' 'Ie, ie,' meddai, 'yr wyf fi yn barod.' Mae yn debygol ei bod o ran ei meddwl wedi sefydlu ac ymlonyddu ar Dduw, yn ei drefn rasol yn achub pechaduriaid: oblegid y parabliad olaf a glywyd ganddi o ganol rhyferthwy marwolaeth, oedd, 'O diolch! diolch am byth!; Amen.' Ac yna hunodd yn yr angeu, gan adael perthynasau mewn teimladau archolledig ar ei hol; eto nid ydynt yn tristau fel rhai heb obaith.
Utica, Caerefrog Newydd.
Thomas. T. Evans.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1849.