MR. JOHN J. PRICHARD, QUINCY, MASSACHUSETTS.
DAMWAIN ALARUS YN QUINCY.
Ar ddydd Gwener, y 29ain o Fehefin diweddaf, fel yr oedd dyn ieuanc o'r enw John J. Prichard wrth ei waith fel arfer - y pryd hyn yn hollti careg fawr - y darn oedd ef yn sefyll arno a syrthiodd, yntau wrth ganfod hyny a gamodd ar risyn oedd yn ymyl, yr hwn oedd yr unig le y gallasai ddianc.Ond yn ol pob tebygolrwydd methodd ddal ei afael, ac fel y gellir casglu oddiwrth yr hyn a welwyd syrthiodd yn ol, a'r gareg fawr a syrthiodd arno Erbyn i'r dynion droi i edrych yr oedd John wedi colli o'u golwg, a gwaeddodd un o'r dynion, Wel dowch, fechgyn, gadewch i ni gael Johu allan. Yr oedd y gareg yr hon a syrthiodd arno (fel y dywedwyd wrthyf) yn pwyso oddeutu deugain tunell!
Gall y darllenydd feddwl yn mha sefyllfa yr oedd pan y cafwyd ef allan. Nid âf i amcanu darlunio y dull yr oedd; canys palla geiriau genyf pan feddyliwyf am dano, ac nis gall fy ysgrifell chwaith ei ddarlunio. Nid oedd y gareg wedi cyrhaeddyd gan uched a'i ysgwyddau; felly yr oedd ei ben yn gyfan.
Cafodd yr ymadawedig y fraint o ymuno â chrefydd gyda y Trefuyddion Calfinaidd yn Nghymru. Yr oedd yn aelod achlysurol yn eglwys Quincy, dan ofal y Parch. Mr. Allen. Yr oedd yn llafurus iawn gyda'r achos yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol lle y mae colled ar ei ol.
Yr oedd y brawd hwn yn fab i John Prichard gynt o'r Gelli Bach, plwyf Llanllyfni; swydd Gaernarfon. Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu 7 mlynedd yn ol - ei oedrau oedd tua 29 mlwydd.