MR. JOHN PRICHARD, PALMYRA, PENNSYLVANIA.

lonawr 14, 1849, yn nhŷ ei fab, Mr. Wm. Prichard, Palmyra, bu farw Mr. John Prichard, yn ei ddwy-ar-bymtheg a thriugain mlwydd oed.

Ymfudodd Mr. Prichard a'i wraîg a dau o blant i'r wlad yma o Ty-yn-y-Maes, plwyf Penrhos, yn agosi Bwllheli, swydd Gaernarfon, yn y flwyddyn 1832, a sefydlodd yn Palmyra, Ohio, yr un flwyddyn. Yr oedd un mab ìddo yn y wlad yma o'r blaen. Yn y flwyddyn 1841 unodd Mr. Prichard ag Eglwys y Bedyddwyr yn y lle hwn. Y flwyddyn ganlynol cyfartu â chroes drom; bu farw ei anwvl briod.

Yn y flwyddyn 1843, unodd Mr. Prichard a'r Eglwys Annibynol yn y lle, yr hon oedd yr amser hyny dan ofal y diweddar Barch. Hugh Hughes. Yr oedd gwrthrych y cofiant hwn yn wr parchus a chyfrifol iawn yn yr ardal; cafodd y fraint o redeg ei yrfa grefyddol yn ffÿddlon a diddolur i'r Eglwysi. Ar ddydd ei gladdedigaeth, Ionawr 16, ymgasglodd tyrfa luosog o'i gyd-genedl i ddangos eu parch olaf tuag ato, drwy anfon ei gorph i dŷ ei hir gartref. Yn y tŷ cyn codi y corph pregethodd John Williams ac ar lan y bedd areithiodd a gweddiodd y Parch. Rees Davies (B).

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1849.