MR. FRANCIS ROBERTS, WESTERN.
Mab ydoedd i Robert ac Elinor Roberts. Ganwyd ef mewn lle a elwir Berth Aur, plwyf Penllech, Lleyn, swydd Gaernarfon, Cymru, yn y flwyddyn 1795; yn mha le y cartrefodd hyd y flwyddyn 1820, pryd y symudodd i ynys Fôn.Yn 1837, ymunodd mewn priodas gyda Jane, merch i Hugh a Mary Wilìiams, Gareg Wen, plwyf Llanddyfnan, Môn ; a buant yn cartrefu yn Ty'n- y-felin, Hirdrefaig, hyd 1841. Yn yr ysbaid uchod ganwyd iddynt dair o ferched.
Yn y flwyddyn uchod cymerasant eu taith dros y weilgi tua gwlad y Gorllewin, a thiriasant yn Nghaerefrog-Newydd yn mis Myhefin, 1841. Daethant yn eu blaenau i swydd Oneida, pa le y sefydlasant gan mwyaf, yn mhlwyfydd Boonyville, Western a Lee, gyda'r alwedigaeth o amaethu; gyda pha un y buant yn llwyddiannus iawn.
Yr oedd Francis Roberts yn ddyn moesol a gwastad yn ei fywyd, yn wrandawr dichlynaidd a deallus o bregethiad yr efengyl, yn gyson gyda moddion gras, ac yn haelionus i gynnorthwyo pob achos da. Bu ei dŷ yn agored i gynnal moddion gras am flynyddau yn y wlad hon. Bu yn athraw diwyd a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn fanwl gyda chadw y Sabboth. Rhoddodd ei wasanaeth ffyddlonaf gyda phob rhan o'r gwaith da o'r bron, ond heb roddi ei hun yn gyhoeddus i Grist a'i eglwys, er iddo lawer gwaith addunedu gwneyd hyny, ond oedi a wnaeth.
Yn ngwanwyn y flwyddyn 1848, cafodd ei ddal gan afiechyd, tebyg i annwyd trwm, yr hyn a'i dilynodd trwy yr hâf; ac felly y bu yn nychlyd a gwanaidd, hyd y 7fed o Awst, pryd y dechreuodd gadw yn ei wely; a bu felly yn gwaelu yn nychlyd hyd Medi 25ain, pryd yr ehedodd ei ran anfarwol i fyd yr ysbrydoedd; gadawodd weddw ac amddifaid alaru ar ei ôl. Ychydig amser cyn ei farw, galarai am na buasai wedi myned at grefydd; ac addunedai yn ddifrifol wneyd hyny, os c'ai wella, yr hyn nis cafodd. Mae hyn yn rhybydd i bawb ar dir y byw i beidio a diffodd cymhelliadau, nac oedi yr amser heibio. 'Yn awr yw yr amser cymeradwy, yn awr yw dydd yr iachawdwriaeth.'
Ar yr 28ain, hebryngwyd ei weddillion marwol i gladdfa Ffloyd, i orphwys hyd udganiad yr Udgorn diweddaf. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. Thos. R. Jones, oddiwrth 1 Cor. v. 1.
Edward Lewis.
Western, Mawrth 6, 1849.