MRS. LAURA ROBERTS, REMSEN, ONEIDA, NEW YORK.

Yn mhlwyf Remsen, Medi 24ain, mewn helaeth fwynhad o gysuron crefydd, Mrs. Laura Roberts, (Ty'nghelog) yn 77 mlwydd oed.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Hydref 1849.


CRYNODEB O FYWYD A MARWOLAETH LAURA ROBERTS O REMSEN.

Lewis Roberts a Laura ei wraig, oeddynt yn byw yn Tyn'yngelog, yn mhlwyf Aberdaron, swydd Arfon. Hwy ill dau a unasant gyd a'r Trefnyddion Wesleyaidd, yn y plwyf hwnw, pan yr oedd yr Eglwys hono yn ei mabandod, o ddeutu saith mlynedd a deugain yn ol. Darfu i'r Arglwydd yn ei ddaioni eu nerthu i fod yn ffyddlon gyda'r achos gogoneddus yn ngwyneb llawer o wendid o'u tu hwynt, a llawer o ddichellion y gelyn o'r tu arall. Eu cariad at Dduw a'i achos a amlygwyd yn dra eglur, drwy eu sel a'u ffyddlondeb. Byddai eu cartref hwy, yn gartref croesawus i weision yr Arglwydd. Ac ni yrid y tlawd oddiwrth eu drws heb dderbyn cymaint o'r goreu a allent eu cyfranu. A diau y bu cwyno am Lewis a Laura Roberts, gan dlodion y lle, ar ol eu colli o'r ardal.

Chwe' blynedd ar hugain yn ôl, daeth William eu mab hynaf i'r America i chwilio ansawdd y wlad. A gwelodd fod yma le gwell iddo ei hun, ei frodyr, a'i chwiorydd, os nad i ei rieni hefyd, nag yn Nghymru. Ond y noswaith y byrddiodd William y llong i groesi y dwr, y cymerodd yr Arglwydd ei dad (Lewis Roberts) ato ei hun. Bu hyn yn drial mawr i Laura Roberts. Yr oedd y plant am ddyfod i'r America, a'r fam eisiau aros yn Nghymru, i gael ei chladdu wrth ochr ei phriod anwyl. Ond gwelodd gan fod ei phlant am ddyfod, mai gwell iddi hithau ymroi i hyny. Felly yr hwyliodd y weddw alarus gyd a phump o blant tu a'r America. Trwy ddaioni yr Arglwydd, tiriasant oll yu gysurus yn New York. Nid oerodd cariad Laura tuag at ei Gwaredwr, ni phallodd ei ffyddlondeb er newid gwlad a newid amgylchiadau, ac yn aml y dywedai :

Dan lawer cwmwl tywyll du, Cynaliaist fi a'th ras.

A phan y byddai cariad llawer yn oeri, gallai Laura ddywedyd, " Myfi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd; "a chafodd y fraint o weled, (pan yn ei bywyd a'i hiechyd) arwyddion o ofn Duw ar ei phlant; a gobeithio y gwelir yr un fu ag arwyddion arno o dynu yn ol, eto'n sefyll yu ei rank, yn atebiad i weddi y fam dros ei Harri. Fel yr oedd ei haul naturiol yn machludo, yr oedd ei haul ysbrydol yn dyfod yn fwy eglur. A mynych y dywedai :

Paham yr ofnai'r afon, Wrth weled grym y dwr.

Bu amryw wythnosau cyn ei marwolaeth, heb allu myned ond ychydig o'i hystafell; ond yr oedd yn gallu dywedyd drwy brofiad fod pob peth yn cydweithio er daioni. Ac fel yr oedd yn tynu at làn y dwr yr oedd yn gallu dywedyd, "Yr wyt ti gyda mi." Tra bu yn gallu siarad tystiai ei hymddiried yn yr unig enw sy' wedi ei roddi dan y nefoedd. yn mhlith dynion. Ac ar ol colli ei lleferydd, gwnai arwydd drwy amnaid, (pan ofynid iddi) fod ganddi obaith da drwy ras. Ac felly hyderwn y gallwn ddywedyd fod ein hen chwaer wedi marw yn ddedwydd yn yr Arglwydd, ar y 24 o Fedi, 1849, yn 77 mlwydd ac 8 mis oed.

Dranoeth ymgasglodd torf barchus o berthynasau a chyfeillion i i-oddi y pridd yn y ddaear fel y bu. Fe'i claddwyd yn mynwent Sixty, Steuben, lle y pregethodd yr ysgrifenydd a'r brawd Humphrey Humphreys ar yr achlysur. Llefarodd a gweddiodd y brawd Morris Roberts yn briodol wrth lan y bedd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1849.