MRS. ANN ROBOTHAM, SIXTY ACRES, STEUBEN, NEW YORK.
Yn ardal y Sixty-Acres, Steuben, nos Fercher, Mehefin 6ed, 1849, Mrs. Ann Robotham, gweddw y diweddar William Robotham o'r lle hwnw.Brodor ydoedd o blwyf Bryncroes, Lleyn, a chwaer i Mrs. Catharine Jones, am farwolaeth yr hon y rhoddwyd crybwylliad byr yn ein rhifyn diweddaf. Ganwyd hi tua dechreu Mai, 1769, ac felly yr oedd yn awr ychydig ddyddiau dros 80 mlwydd oed. Yr oedd y ddwy chwaer yn America ers llawer o flynyddoedd, - wedi treulio amryw flynyddoedd yn Phiiadelphia - y ddwy yn oedranus, - yn lled wael ei hiechyd ers tro maith, - a chawsant ddiweddu eu hoes o fewn tua mis i'w gilydd, a'u claddu yn mhen mis i'r un diwrnod.
Yr oedd Mrs. Robotham yn aelod o'r eglwys Wesleyaidd yn Sixty, a chladdwyd hi yn ymyl ei phriod yn y gladdfa hono, Mehefin. 8fed, a phregethwyd ar yr achlysur gau R. Everett. Anerchwyd y gynulleidfa ar làn y bedd gan y Parch. Rees Davies, gweinidog Wesleyaidd.