MRS. ELIZABETH THOMAS.

Ganwyd gwrthrych y cofiant hwn mewn tyddyn bychan yn mhlwyf Llangian, Lleyn. Symudodd ei rhieni i Wydryn, yn agos i Abersoch, plwyf Llanengan.

Merch ydoedd i William a Catherine Hughes - yr hynaf o'u plant. Yn 25 oed ymunodd yn y stad briodasol a Solomon Thomas, ac aethant i fyw i'r Coedgiagwyn, yn Eifionydd, ac yno ymunodd a'r eglwys Gynulleidfaol yn y Capel Helyg, dan weinidogaeth y Parch. Edward Davies, a pharhaodd gyda'r achos goreu yn ffyddlon hyd ei marwolaeth.

Yn ei chystudd dywedai nad oedd yn ofni ymddangos yn myd yr ysbrydoedd, ac nad oedd arni chwant byw yn hwy, - ei bod yn pwyso ar un ag oedd yn abl i'w chynal, os nad oedd yn ei thwyllo ei hun.

Ei hoedran oedd 65.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1849