MR. JOHN THOMAS, TRENTON, ONEIDA, NEW YORK.
DYGWYDDIAD TRALLODUS.
Ar ddydd Mercher, Mai 23ain, bu dygwyddiad tra gofidus a thrallodus yn y Pentref Newydd, plwyf Trenton, C. N.Mr. John Thomas, gwr tra chyfrifol yn ei ardal, a aeth at yr afon Canada Creek i bysgota, gan gael benthyg gwialen a llinyn gan gymydog iddo i'r perwyl hyny - gwaith iddo ef tra anghynefin, oblegid ni byddai un amser yn ei arfer. A thrwy ei fod yn aros yn lled hir heb ddychwelyd, dechreuwyd anesmwytho yn ei gylch, ac awd i chwilio amdano; ac er galar a thristwch mawr i'w deulu caredig a'i berthynasau, a lluaws mawr o gyfeillion crefyddol a chymydogion, cafwyd ei fod wedi cwympo i'r afon a boddi!
Ac er chwilio llawer, ni chafwyd y corph hyd foreu dydd Gwener canlynol. Gadawodd weddw mewn galar mawr, a thri o blant - dau fab ac un ferch - yn nghyd a pherthynasau eraill.
Yr oedd Mr. Thomas tua 54 ml. oed, yn frodor o blwyf Bryncroee, Lleyn - yn y wlad hon ers llawer o flynyddoedd. Yr oedd yn aelod eglwysig gyda y Trefnyddion Esgobaethol, yn wr duwiol ac yn dyst ffyddlon dros ei Geidwad yn ei gymydogaeth. Cafwyd colled fawr ar ei ol yn ei deulu, yr eglwys, a'r ardal.
Claddwyd ef yn nghladdfa y Pentref Newydd, a phregethwyd ar yr achlysur i dyrfa fawr a syml gan B. Everett.