MRS. CATHERINE WILLIAMS, HENBANT, COLUMBUS, WISCONSIN.

Cyfnewidiol yw y byd hwn, a'i ddull yn myned heibio; ac un esiampl neillduol o hynny yw gwrthrych y cofiant hwn: ac, fel eraill o'i blaen, yn y byd gorthrymder a gafodd - dyfnder yn galw ar ddyfnder, a chymylau yn dychwelyd ar ôl y gwlaw. Ond yn y gorthrymderau, mwynhaodd gysur yn yr Hwn a orchfygodd y byd; ac er mai o don i don, aeth o nerth i nerth, a hyderus ydym yr ymddangosodd ger bron Duw yn Seion.

Merch ydoedd Catherine Williams i William a Margaret Williams, o'r Henbant Mawr, Clynnog, swydd Gaernarfon, Cymru. Ganwyd hi yn mis Chwefror, 1826; a chan fod ei rhieni yn aelodau eglwysig gyda y Trefnyddion Calfinaidd (ei thad yn flaenor er ys llawer o flynyddoedd), cafodd ei dwyn i fyny yn grefyddol. Wedi dyfod trwy gyfnewidiadau cyffredin ieuengctyd, ie, mwy profedigaethus na llawer, priododd yn Chwefror, 1845, pan yn 19 mlwydd oed, gyda John Williams, mab William Williams, Penyrallt Isaf, Clynog.

Yn mhen ychydig dros hanner blwyddyn, gwelodd ei rhieni, ei brodyr a'i chwiorydd yn hwylio i'r wlad hon, gan ei gadael hi yn unig ar ôl.

Y Myhefin canlynol (1846), daeth hithau gyda'i gŵr yma; ac un o'r newyddion cyntaf a glywodd ar ôl dyfod oedd, fod ei brawd John (bachgen 9 mlwydd oed, ag arwyddion dymunol o dduwioldeb arno) wedi ei gladdu er dechreu Ebrill. Yn mhen tua 6 wythnos wedi ei dyfodiad yma, bu farw ei hanwyl briod yn ddysymwth, yr hwn oedd ŵr hynaws a chrefyddol; a chyn pen chwarter blwyddyn (sef Hydref laf), ganwyd Margaret ei merch. Ac wedi bod yn weddw gyda'i rhieni yn agos i dair blynedd, sef hyd Myhefin 20fed, 1849, priododd eilwaith, gyda Michael Williams, mab William Williams, Hafodgynfor, Llanberis, Cymru.

Yn mhen ychydig wythnosau ar ôl priodi, ymaflodd yr annwyd a phesychu mawr ynddi, yr hwn a droes yn ddarfodedigaeth buan (quick consumption); a Medi 6ed, yn mhen 11 o wythnosau ar ôl priodi, wedi bod yn gorwedd am 6 wythnos, cyfarfyddodd â'r cyfnewidiad olaf, sef newid y wyneb a'i danfon i ffordd, i'r byd anghyfnewidiol, yn 23 mlwydd oed.

Tranoeth hebryngwyd ei chorff i dŷ ei hir gartref, gan dorf o'r Cymry yn gyffredinol, a chyn ymadael, pregethodd y Parch. Hugh Jones ar yr achlysur, oddiwrth Mat. xxiv. 44. Bu fyw ei hoes fer yn hynod o ddiddolur i'w rhieni ac i eglwys Dduw, er nad oedd yn cyhoeddi cymaint ar ei chrefydd a llawer, ac na fwynhaodd nemawr o sicrwydd gobaith : dystaw ac ofnus ydoedd bron ar hyd ei thaith. Am dani ei hun y byddai ei hymddyddanion crefyddol yn wastad, nid am ei chymydogion. Pan honai rhywun brofiad uchel, cwynai hi nad oedd yn gwybod am ddim mawr felly, a'i bod yn ofni nad oedd ganddi ddim ond ei bod wedi ei magu yn grefyddol. Ond er nad allai ddywedyd yn glir wrth ei rhieni, 'Dy Dduw di fydd fy Nuw inau,' gallai ddywedyd 'Dy bobl di fydd fy mhobl inau.'

Yr oedd ganddi barch neillduol i dŷ Dduw ac ordinhadau crefydd; a dymunol fyddai gweled ieuengctyd yn gyffredinol yn gyffelyb iddi. Gofynodd ei mam iddi pan yn glaf, 'A fyddai yn dda genyt gael myned at dy deulu?' 'Byddai, 'cawn i hyny,' meddai hithau; ' ond mae arnaf ofn twyllo fy hun.' Gofynodd iddi ryw dro arall, pan yn ofni ei chrefydd, 'A wyddost am ryw amser y teimlaist gariad at Iesu Grist?' Gwn yn wir,' meddai hithau, yn dra phenderfynol. Gofynodd hefyd, 'A fydd gair o'r Beibl ar dy feddwl weithiau?' 'Bydd, lawer,' meddai hithau. 'Pa un yn fwyaf neillduol y dyddiau yma?' gofynai yn mhellach. Ni'th roddaf i fyny,' a.y. Yr oedd yn ofni marw ar y cyntaf, ond yn rhyw dawelu at y diwedd. Gofynodd ei gŵr iddi tua phymthegnos cyn iddi farw, 'A oes arnoch ofn marw?' 'Oes' meddai hithau, 'ofn yr iâs.' 'A ydych yn meddwl y byddai yn well wedi myned trw'odd?' gofynai wedyn. 'O byddai,' meddai hithau. Gofynodd rywbryd arall, 'A fyddai yn well genych fyw na myned i'r lle gogoneddus hwnw?' ' Byddai am dipyn,' meddai hi. 'I ba beth yn benaf,' gofynai yntau, 'ai er mwyn i ni gydfyw?' 'O nage,' meddai hithau, 'i gael myned i'r capel ac i'r society.'

Pan yn ymyl marw dywedai yn floesg, 'Dilynwch Grist;' hefyd, 'mae yna dŷ braf.' 'A ydych yn ei hoffi?' gofynai ei gŵr. 'O ydwyf,' meddai hithau, 'nid oes yna neb yn sâl.' Yna hunodd yn yr Iesu; a huno tawel ydoedd hefyd i'n golwg ni. Dyoddefodd ei chystudd yn hynod o dawel; ac er môr ofnus ydoedd ar hyd ei thaith grefyddol, talodd y glynu yn dda erbyn y diwedd. Nid dydd, ac nid nos oedd ei chrefydd yn ei hoes; ond daeth goleuni yn yr hwyr. Onid yw hyn yn annogaeth i ninau lynu yn ein proffes? Cofiwn mai da yw fod y pack yn barod erbyn cychwyn : ni cheir nemawr o seibiant yno, hyd yn nod gyda y gwas gwenieithgar hwn i angeu (darfodedigaeth) - 'Ac os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?'
JOHN J. ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1849.