MR. ROWLAND WILLIAMS, EBENSBURGH, PENNSYLVANIA.

Yr oedd Rowland Williams yn fab i Howell a Margaret Williams, ac yn enedigol o ardal Dolgellau, swydd Feirionydd, G. C. Cladüwyd ei anwyl fam pan oedd efe ond blwydd a haner oed; er hyny drwy dyner ddarpariaeth rhagluniaeth magwyd ef yn ofalus gau ei fodryb, chwaer ei fam. Gwedi hyn symudodd pan eto yn ddyn ieuanc i blwyf Llanbrynmair.

Ar y lOfed o Fawrth, 1832, ymunodd mewu priodas ag Elenor Vaughan o blwyf Llanowiin. Yn fuan ar ol iddynt briodi ymfudasant i America a daethant yn mlaen i Ebensburgh, lle y sefydlodd ef a'i deulu hyd ddydd ei farwolaeth. Yn yr Hydref wedi eu dyfodiad i Ebensburgh, derbyniwyd ef a'i wraig yr un Sabboth yn aelodau o'r eglwys hon. Cawn fod ymddygiad cyffredinol R. Williams yn Nghymru, ac ar ei daith i'r wlad hon mor weddus a phrydferth, fel y tybid gan ei gyn fordeithwyr ei fod yn ddiau yn wr crefyddol, a dywedir mai tra gwastad oedd ei ymddygiadau wedi bod fel dyn ieuanc caruaidd a pharchus bob amser. Ond yma y dechreuodd ac y terfynodd hefyd ei yrfa grefyddoi yn ei berthynas ag eglwys Dduw ar y ddaear. O'r holl amrywiol farwolaethau sydd wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yn y lle hwn, dywedir na bu yr un a barodd fwy, os cymaint, o alar dwys a chyffredinol a marwolaeth ein hauwyl frawd hwn. Yr oedd ynddo amryw rinweddau hynod i enill serch a pharch dyladwy yn mhob cylch y byddai yn troi ynddo.

Yn ei deulu fel priod, yr oedd yu un yu ddiau o'r cynesaf a'r tirionaf o feibion Adda. Fel tad, yr oedd yn dyner tu hwnt i'r cyffredin, efallai, hyd fai fel Eli. Os oedd un ynddo, dyna 'fe. Ond merched, y llestri gwanaf, a roddodd ei Dad doeth dau ei ofal, a gobeithio na bydd i'r un o honynt byth anghofio eu tad tyner a duwiol a gynghorodd gymaint arnynt, ac a weddiodd gymaint drostynt.

Hefyd teimla yr holl ardaloedd, pell ac agos, fawr golled ar ei ol, a theimlir eto fwy. Fel crefftwr (wheelwright) yr oedd fel y dywedant, yn un heb ei ail o fewn ugeiniau o filltiroedd.

Cymerwyd ef yn glaf y tro diweddaf yn y cyfarfod gweddi nos Fawrth, a'r Llun canlynol, Chwefror 26ain, cyn pen wythnos ehedodd ei ysbryd at Dduw a'i rhoes ef. Aeth oddiwrth ei waith at ei wobr, yn bur foreu hefyd, canys nid oedd yn gyflawn 45 mlwydd oed pan fu farw, a gadawodd ar ei ol weddw a 5 o blant.

Y Tad yr hwn sydd yn y nefoedd fyddo yn Dad ac yn Dduw ac yn rhau iddynt oll, ac a'u gwuelont oll yn barod i gyd gyfarfod yn nhŷ a theyrnas eu Tad eto pan ymadawout hwythau á'r fuchedd hon. Traddodwyd pregeth gan yr ysgrifenydd ar achlysur ei farwolaeth.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1849.