MRS. CATHERINE DAVIES, UNION, WISCONSIN.

Mehefin 27ain, 1850, yn Union, Wisconsin, yn 76 mlwydd oed, Catherine, priod Mr. John Davies, blaenor gyda y T. C, gynt o'r Glyndyfrdwy, sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Ymunodd ag eglwys y T. C. yn Llandrillo, pan yn ieuangc, a chafodd y fraint o weini ar weision yr Arglwydd dros lawer o flynyddoedd.

Ymfudodd gyda'r teulu i'r wlad hon tua 5 mlynedd yn ôl, a blynyddoedd o boen a blinder y buont iddi, eto dyoddefodd ei chystudd yn dawel ac amyneddgar.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1850.