MR. DAFYDD WILLIAMS, STEUBEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
COFIANT Am y diweddar Dafydd Williams, Steuben, Swydd Oneida, C. N.Ganwyd Dafydd Williams yn Mhlasllecheiddior, plwyf Llanfihangel-y-Penant, swydd Gaernarfon, yn y flwyddyn 1773.
Bedyddiwyd ef yn y gymydogaeth hono, a derbyniwyd ef yn aelod yn Eglwys y Garn. Yn mhen ychydig amser gwedi hyny, efe a briododd; ac a fordwyodd i dir America yn y fl. 1801, ac a sefydlodd yn nghymydogaeth Steuben, swydd Oneida.
Yn mhen dwy flynedd gwedi hyny, corffolwyd Eglwys Gymreig o Fedyddwyr yn Steuben, ac yr oedd ef yn un o'r aelodau yn y corffoliad, ac a neillduwyd i'r swydd o ddîacon. Bu yn y swydd hono hyd ddydd ei farwolaeth, yn ffyddlon ac ymdrechgar yn ngwyneb llawer o dreialon a helbulon.
Yn mhen amryw o flynyddau cafodd ei amddifadu o'i wraig, yr hon a adawodd o'i hol bedwar o blant, sef tair merch ac un mab. Mae y tair merch yma eto yn fyw—dwy o honynt yn briod, a'r llall heb fod; ond am y mab, nid oes hanes pa un ai byw ai marw ydyw.
Yn mhen talm o amser, ail-briododd Dafydd Williams â Catharine Grifítths, a chawsant dri o blant, sef John, David, a Temperance.
Bu farw Dafydd Williams tua diwedd y fl. 1837, a chladdwyd ef yn mynwent yr Ail Eglwys, yn Steuben, lle yr oedd wedi bod yn ymdrechgar a diwyd dros 34 o flynyddoedd ; ac yno y gorphwys ei ran farwol hyd ganiad yr udgorn y dydd mawr diweddaf.
Mae yr Ail Eglwys yn Steuben yn teimlo ac yn galaru eu colled ar ei ol hyd y dydd hwn; ac nid yw yn annhebyg na theimlant eu colled am dano flynyddau i ddod.
Yr oedd ef yn frawd i'r diweddar Barch. John Williams, gweinidog y Bedyddwyr yn Nghapel Oliver-street, Caerefrog-Newydd.