MR. GABRIEL DAVIES, CINCINNATI.
BU FARW, Y 19eg o'r mis diweddaf ynei letty, yn Cincinnati, yn ddisymmwth iawn, Mr. Gabriel Davies, gynt o'r Bala, Swydd Feirionydd o'r dyspepsia, sef diffyg treuliad, meddai ei feddyg.Yr oedd y brawd tra anwyl uchod yn adnabyddus iawn yn mhlith y Cymry yn y wlad hon, ac yn ol barn pawb yn ddyn gwir dduwiol a diniweid, ac fel y cyfryw yn cael ei gofleidio a'i fynwesu gan bawb a'i hadwaenai.
Bu yn aros yn ninas Caerefrog-Newydd amser maith, eithr yn mis Awst er llynedd, ymadawodd i ymweled a'i frodyr trwy'r taleithau, i ba rai y pregethai yn achlysurol.
Yr oedd yn amlwg ei fod yn aeddfedu i'r nefoedd yn ei ddyddiau olaf. Nis anghofir byth ei gynghorion gafaelgar mewn Cymdeithasau Eglwysig, a'i weddiau tanbaid a nefolaidd.
Yn enwedig y nos Sabboth cyn ei farwolaeth cofia rhai tra byddont byw am yr oedfa, diolchai yn orfoleddus am ddrws Tÿ Dduw — fod ei dro hwy yn ddigon íseî i'w fath ef fyned i rawn, ac yn rhy uchel i'w fath byth fyned allan; ac am waed y groes í buro ei gydwybod cyn ei fedd. Yroedd syndod wedi dal yr holl gynnulleidfa.
Aeth at ei waith y boreu Llun, ond buan y bu raid iddo ei adael, a thua chanol dydd, y 19eg, ymadawodd y wreichionen ysprydol a'i dŷ o glai i breswylio byth mewn tŷ nid o waith llaw—tragwyddol yn y nefoedd.
Cludwyd ei weddillion marwol mewn elorfeirch i gladdfa y Bedyddwyr yn y ddinas hon. Ymgasglodd lluaws o'r Cymry i'w angladd mewn cerbydau ac ar geffylau. Ymddygasant ein cenhedl yn dra charedig tuag at ei gladdedigaeth.
Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ gan y Parch. E. Jones, Trefnydd Calfinaidd, ac ar lan y bedd, gan y Parch. Ebenezar Davies, Trefnydd Wesleyaidd. Cincinnati.