MRS. CATHERINE DAVIES, PEACH BOTTOM, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

Rhagfyr diweddaf y 7fed, yn Peach Bottom, swydd York, Pennsylvania, yn 24 mlwydd. oed, Catharine Davies, merch i John Parry, Ty Hên, Llandegai ger Bangor, swydd Arfon, Gwynedd.

Ymfudodd i'r wlad hon, tua dwy flynedd i'r Sulgwyn diweddaf. Ynmnodd yn y stâd briodasol Rhagfyr 2ail, 1849, gyda Evan G. Davies, gynt o Bentref Ebenezer, Llanddeiniolen, swydd Arfon.

Ychydig o wythnosau cyn ei marwolaeth, esgorodd ar fachgen; ac ni wellhaodd ond i raddau bach. Yna ymafaelodd ynddi nychdod a gwendid, a gwnaed pob ymdrech gan y meddygon tuag at ei hadferyd; Ond er hyny,

Clafychu a nychu o hyd, - a wnaeth,
Yn nyddiau ei thristyd;
Ac wedi'r boen, gado'r byd;
A hedfan uwch ei hadfyd.

Dydd ei chladdedigaeth, ymgynullodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson, a hebryngwyd ei gweddillion i gladdfa Slate Ridge. Peach Bottom.
Guttun Ogwen.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1851.


MRS. CATHERINE DAVIES, PEACH BOTTOM, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

Rhagfyr 7fed, 1850, yn Peach Bottom,swydd York, Pennsylvania, yn 24 mlwyddoed, Mrs. Catherine Davies, merch i John Parry, Ty-hen, Llandegai, ger Bangor, swydd Arfon, Gwynedd.

Ymfudodd i'r wlad hon tua dwy flynedd i'r Sulgwyn diweddaf. Ymrwymodd mewn ystâd briodasol Rhagfyr 2ail, 1849, gydag Evan G. Davies, gynt o bentref Ebenezer, Llanddeiniolen, swydd Arfon.

Ychydig o wythnosau cyn ei marwolaeth esgorodd ar fachgen, ac ni wellaodd ond i raddau bychan; yna ymaflodd ynddi nychdod a gwendid, a gwnaed pob ymdrech gan y meddygon tuag at adferiad iechyd, ond er hyny

Clafychu a nychu o hyd - a wnaeth
Yn nyddiau ei thristyd;
Ac wedi'r boen gado'r byd,
A hedfan uwch ei hadfyd.

Ddydd ei chladdedigaeth ymgynnnllodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson, a hebryngwyd ei gweddillion i gladdfa Slate Ridge. Peach Bottom.
Guttun Oowen.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1851.