MR. DAVID DAVIES, CRAIG, LEWIS COUNTY, NEW YORK.

Yn mhlwyf Craig, swydd Lewis, Caerefrog Newydd, David Davies, mab i Mr. Robert ac Ann Davies, gynt o Felin-pen-coed, plwyf Llanarmon, swydd Gaernarfon, yn 25 mlwydd oed.

Ymfudasant i'r wlad hon 32 mlynyedd yn ôl. Rhoddodd yr Arglwydd iddynt naw o "blant, saith o ba rai sydd yn fyw. Symudasant i'r lle uchod 12 mlynedd yn ôl.

Yr oedd yn ddyn ieuanc cryf, iach, a meddylgar iawn, yn effro am y byd a'i bethau, a phob ymddangosiadau i ddynion y byddai yn mwynhau oes hwy na llawer.

Symudodd i Ohio gyda ei frawd Ricbard Davies bedair blynedd yn ôl a dychwelodd yn ôl Mehefin diweddaf. Bu ei rieni yn anesmwyth a gofidus iawn o'i herwydd y pryd yr oedd yn Ohio - yn hir heb glywed oddiwrtho - ac yn ofni na chlywent mwy. Ond daeth adref, a mawr oedd eu llawenydd a'r teulu oll ei weled yn dychwelyd. Ond bychan oeddynt yn feddwl fod ei symudiad i'r byd tragywyddol, nad oes gobaith dychwelyd i'w dŷ mwy, mor agos.

Bu yn glaf o 5 i 6 wythnos. Nid oedd y meddygon yn gwybod yn dda natur ei glefyd, na neb yn meddwl ei fod yn angeuol. Ymddyddanwyd llawer ag ef yn ystod ei gystudd am fater enaid. Gofynwyd pa fodd yr oedd arno o ran ei feddwl. Dywedai yntau ei fod wedi byw yn rhy ddi-ofal ac yn rhy ddaearol - wedi gofalu mwy am bethau y byd yma nag am ei enaid, a bod hyny yn ofid mawr iddo.

Dymunodd ei anwyl fam gael rhyw amlygiad cyn ei farw fod undeb rhwng ei enaid â Chyfryngwr. Yn ei ddyddiau diweddaf ymddangosai ei fod yn mwynhau ei synwyrau yn well nag yr oedd wedi bod. Dangosodd awydd mawr i ddarllen y Bibl, ac yr oedd yn alluog i siarad hyd y fynyd ofaf. Nos Wener, Mawrth 22ain, pan oedd yn bur wan, gofynodd ei fam iddo a oedd yn meddwl fod undeb rhwng ei enaid â Christ. Atebodd yntau yn wanaidd ei fod yn meddwl fod, a dymunodd ar ei anwyl dad a'i frawd i weddio drosto - felly y gwnaethant.

Yr oedd yn ofid nid bychan iddo ei fod wedi treulio ei oes heb wneuthur proffes o grefydd Crist. Felly am haner awr wedi wyth o'r gloch nos Wener ehedodd yr enaid at Dduw yr hwn a'i rhoes. Danfonwyd ei gorph i orwedd yn mynwent Tuck Hill. Pregethwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd oddiwrth adnod a goffawyd gan ein cyfaill ymadawedig, Esaiah 55 : 6. Bydded bendith i ddylyn yr amgylchiad sobr hwn i'r perthynasau oll, ac i ieuenctid yr ardaloedd yn gyffredinol.
D. E. Prichard.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mehefin 1850.