MR. JOHN DAVIES, FRANKFORT HILL, NEW YORK.
Mai 12fed, 1850, yn Frankfort Hill, Caerefrog Newydd, o'r Dwymyn Dyphoid, yn 25ain mlwydd oed, John Davies, gynt o Gapel Curig, sir Gaernarfon.Ymfudodd o Gymru er ys llai na blwyddyn yn ôl. Gadawodd wraig a baban mewn tristwch ar ei ôl.