WILLIAM GRIFFITHS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 18fed, 1850, yn Remsen, yn 7 mlwydd oed, William, mab Hugh Griffiths.Ymfudodd i'r wlad hon o Harlech, sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1845. Mab ydoedd ei dad i Griffith Hughes, Penrhiwgoch, Harlech, yr hwn sydd yn dra adnabyddus i lawer o'r rhai a ddaethant o'r ardaloedd hyny.
Claddwyd ef yn mynwent y Bedyddwyr, yn Steuben, ar yr 20fed; gweinyddwyd ar yr achlysur gan Mr. William Jones.
Ei afiechyd oedd dwfr ar yr ymenydd.
Ein hyder ar ein hoes na ro'wn yn hwy,
Ond ias y gelyn mawr dysgwyliwn mwy :
Pob oed a gwymp i'r bedd—pob gwedd i gyd;
Ca'dd llawer maban, do, y gro yn gryd.