MISS. MARY HUGHES, PEACH BOTTOM, PENNSYLVANIA.
Mawrth 3ydd 1850, yn Peach Bottom, Pennsylvania, yn 16eg mlwydd oed, Mary Hughes, merch Mr. Edward Hughes, Bryntirion, sir Harford, Maryland, gynt o'r Four Alls, ger Bangor, Gwynedd. Mae ei hymadawiad yn destyn galar, ac yn achos hiraeth i'w theulu, yn nghyd a chylch helaeth o gyfeillion.Yr oedd yn eneth siriol ac hawddgar, ac yn iachus iawn yr olwg arni, ac yn un gyson a phrydlon yn mhob moddion o ras yn ein capel Cymraeg.
Y dydd Mawrth canlynol ymgasglodd lluaws mawr o Gymry ac Americaniaid i hebrwng ei rhan farwol i fynwent Capel Slate Ridge, Pennsylvania, i aros caniad yr udgorn diweddaf.