MR. DAVID HUMPHREY, LEHIGH, PENNSYLVANIA.

Yn Lehigh Gap, swydd Lehigh, Pennsylvania, Ionawr 29ain, Mr. David Humphrey, yn 27 mlwydd oed.

Mab ydoedd i Mr. Humphrey a Margaret Davies, Cefn Bychan, Ffestiniog, Meirionydd. Tarawyd ef gan bigyn yn ei ochr a chystudd trwm ar y 24ain o Ionawr, yr hyn a'i dygodd ymaith gyda phrysurdeb mawr.

Daeth i New York o Gymru Mehefin 11eg, 1849, gyda y Parch. E. Griffith, gynt o Lanegryn, yn awr o Utica.
William. W. Edwards.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1850.