MRS. ANN HUMPHREYS, WEBSTER HILL, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn ei hanedd, ar Webster Hill, swydd Oncida, Gorffennaf 14eg, 1850, Mrs. Ann Humphreys, priod Mr. David Humphreys, yn 62 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Mr. David Evans, o'r Nant, plwyf Llangian, Lleyn. Daeth hi a'i phriod i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818 - a chyrhaeddasant i Steuben ar yr 8fed o Orphenaf y flwyddyn hono - sef 32 mlynedd i'r mis y bu farw.

Derbyniwyd hi yn aelod yn y Capel Uchaf, Steuben, tuag 20 neu 22 mlynedd yn ôl, a pharhaodd ei haelodaeth yuo a thrachefn yn nghapel Penymynydd hyd ei marwolaeth. Yr oedd yn fenyw dra serchog a siriol gyda ei chydnabyddiaeth yn gyffredinol - yn briod ffyddlawn ac anwylaidd - yn fam dyner a gofalus - ac yn effro, gafaelgar a phrofiadol mewn crefydd.

Cododd deulu mawr o blant, ae y mae amryw o honynt gyda eu hanwyl dad yn arddel yr enw mawr, ac nid oedd dim a lonai ac a lawenychai ein hoff chwaer yn fwy na gweled ei hanwyl dylwyth yn rhodio yn y gwirionedd.

Yr oedd ei hicchyd yn wael a gwanaidd ers hir amser; ond ei chystudd diweddaf oedd fyr iawn - tua 5 diwrnod. Yr oedd fel arferol o ran ei hiechyd, ac yn teimlo yn hytrach yn well nag arferol, y Sabboth blaenorol - wedi cyrhaedd i'r oedfa gyda ei gŵr a'i mab hynaf, i dŷ un o'i brodyr crefyddol yn yr ardal, lle y dygwyddai ei gweinidog, R. Everett, fod yn treulio rhan o'r Sabboth, ac yno yr oedd yn gwrando yn dra effro a siriol ac yn cyfranogi am y tro diweddaf iddi hi (er nas gwyddem ar y pryd) o'r ordinhad o swper yr Arglwydd. Cymerwyd hi yn glaf tua nos Lun neu ddydd Mawrth, a bu farw prydnawn Sabboth canlynol, sef y dydd a nodwyd uchod.

Claddwyd ei rhan farwol mewn monwent newydd ar y tyddyn a berthyna i'r teulu, yr hon a amcenir yn gladdfa y teulu, a phregethwyd ar yr achlysur i dorf fawr, yn Saesonaeg a Chymraeg, gan R. Everett, ac yna ymadawsom gan ei gadael yn ei beddrod unig, y gyntaf a osodwyd yn y gladdfa newydd hon.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1850.