MR. ISAAC F. JONES, SAN FRANCISCO, CALIFORNIA.
NEWYDD GALARUS O GALIFFORNIA.
Yn mhlith y marwolaethau drwy'r colera yn Califfornia canfyddir enw Mr. Isaac F. Jones o Utica. Bu farw yn San Francisco Tachwedd 3ydd, 1850, yn 29 mlwydd oed.Yr oedd Mr. Jones yn fab i Mr. Richard Jones, argraffydd, Dolgellau. Ymfudodd gyda ei briod i'r wlad hon yr haf, flwyddyn i'r diweddaf.
Yr oedd yn argraflydd wrth ei gelfyddyd a bu yn dwyn yn mlaen y gwaith o argraffu am rai blynyddau yn nhref Machynlleth, o'r lle yr ymfudodd i America.
Yr oedd hefyd yn bregethwr cymeradwy yn nghyfundeb y Trefnyddion Wesleyaidd. Aeth i Galiffornia tua blwyddyn yn ôl gydä Mr. Gorner E. Roberts, argraffydd, o Utica, a Mr. William. O. Williams o Carbondale, ac eraill. Ymddangosodd hanes y fordaith faith o amgylch y Cape Horn, gan Mr. Williams, yn un o'n rhifynau yn ddiweddar.
Gadawodd y brawd Jones ei weddw mewn galar dwys ac yn unig yn San Francisco.