MR. JOHN JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn Steuben, Medi 17eg, 1850, o'r dyfrglwyf, Mr. John Jones, dilledydd, yn 75 mlwydd oed.Brodor ydoedd o Leyn, swydd Gaernarfon - un o'r hen sefydlwyr yn Steuben - ac un a wrandawodd lawer ar bregethau yr efengyl drwy ei oes. Yr oedd yn ŵr cymeradwy yn ei ardal - yn ymostyngol a thawel yn ei gystudd diwethaf.
Claddwyd ef yn monwent Penycaerau, Remsen, a phregethwyd gan R. Everett ar yr achlysur oddiwrth Salm 90 : 12.