MRS. MARY JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
COFIANT MRS. MARY JONES, UTICA, (yr hon a fu farw Mawrth 7fed, 1850.) "Un genedlaeth a â ymaith, a chenedlaeth arall a ddaw; ond y ddaear a saif byth."Yr oedd gwrthrych y Cofiant hwn yn un o "rai rhagorol y ddaear," a gellir dywedyd yn ddibetrus fod "dydd ei marwolaeth yn well na dydd ei genedigaeth."
Yr oedd yn ferch i Rees a Mary Lewis, gynt o Blasynbrithdir, yn agos i Ddolgellau; ac wedi hyny o'r Dyffryngwyn yn agos i Dowyn Meirionydd.
Ymfudodd y teulu oll i'r America yn y flwyddyn 1823. Yr oedd ei rhieni yn aelodau eglwysig yn yr hen wlad, yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd; ond wedi dyfod i'r America, ymunasant â'r eglwys Annibynol yn Utica, y pryd hwnw dan ofal gweinidogaethol y Parch. Robert Everett. Bu farw ei thad er y flwyddyn 1842, ond ei mam sydd fyw eto, ac yn preswylio gyd a'i merch arall yn Deerfield ar ôl ei marw hi. Bu ei mam ar ôl marw Mr. Lewis am rai blynyddau yn treulio ei hamser, weithiau yn Utica gyda hî, a phryd arall gyd a'i merch arall yn Deerfield. Ond treuliodd y blynyddau diweddaf gyda Mrs. Jones yn Utica, ac ni welwyd merch a mam mwy hoffus o'u gilydd erioed.
Ganwyd Mrs. Jones yn yr Hen Wlad, yn y flwyddyn 1807. Derbyniwyd hi yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Utica gan Mr. Everett yn y flwyddyn 1827: ac ymunodd mewn priodas gyda Mr. Thomas Jones, Utica, gynt o Lanuwchllyn, yn y flwyddyn 1829. Ni bu iddynt ond un plentyn, yr hwn sydd mewn oed i deimlo colled a hiraeth ar ôl ei fam. Yr oedd o ran tymer naturiol, yn hynod o addfwyn, tirion ac arafaidd. Ei phriod a ddywed na welodd hi un amser mewn nwydau drwg, beth bynag a fyddai ei gofid a'i thrallod.
Yr oedd yn perchen galluoedd meddwl cryfach na'r cyffredin o'i rhyw, a phob amser yn ymddwyn yn bwyllus ac arafaidd mewn cyfyngderau.
Yr oedd fel gwraig yn ddiwyd, cynil a glanwaith, a bu yn ymgeledd gymhwys i'w phriod; hi a wnaeth iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.
Yr oedd yn fam dyner a phryderus yn nghylch ei phlentyn: cynghorodd lawer arno i gofio ei Greawdwr yn nyddiau ei ieuenctyd, a gwylio rhag dylyn y lluaws i wneuthur drygioni; galwai ef yn aml o'r neilldu i'w gynghori, a gweddiodd lawer drosto, yn nghyd a byw yn sanctaidd a sobr yn ei wydd. Felly yr oedd ei chynghorion, ei gweddiau, a'i buchedd yn ei gymhell i fyned gyda hi tua Chanaan. Ond aeth i'w bedd cyn ei weled dan iau Iesu, eto gobeithir nad â cynghorion ei anwyl fam yn annghof ganddo, ac y gwrendy ar lais ei dad, fel y caffo ras a deall da ger bron Duw a dynion.
Yr oedd Mrs. Jones yn un siriol a serchus iawn yn ei thŷ bob amser; byddai â'i gwen ar ei gwynebpryd yn gweini i'w hymwelwyr, er yn glaf a gwanllyd. Cafodd llawer o ymfudwyr tlodion o'r Hen Wlad ymgeledd a charedigrwydd mawr yn ei thŷ; yr oedd yn lletygar ac yn rhoddi yn llawen: hi a agorodd ei llaw i'r tlawd, ac a estynodd ei dwylaw i'r anghenus.
Bu eu tŷ yn llety croesawgar i bregethwyr yr efengyl, a hithau oddiar serch fel Martha, yn cymeryd mwy o drafferth nag a fuasai yn angenrheidiol lawer gwaith. Cafodd yr ysgrifenydd a'i deulu lawer o garedigrwydd yn eu tŷ, er pan y daeth i'r America. Yr oedd yn myned yn fwy hoffus o'i chyfeillion crefyddol yn barhaus, a hwythau o honi hithau, er nad oedd yn alluog i fyned gyda hwy i dŷ Dduw er's talwm; eto yr oeddis yn cael cyfrinachau melus gyda hi yn ei thŷ ei hun.
Yr oedd yn un o'r rhai ffyddlonaf a welwyd, am fyned i foddion gras, tra y bu yn gallu: yr oedd fel Anna yn y deml yn mhob moddion. Yr oedd yn amlwg i'w chyfeillion, ei bod yn gweddio llawer ar ei Thad yn dirgel; oblegid byddai yn mwynhau pleser a hyfrydwch yn yr amlwg.
Byddai yn y cyfrinachau eglwysig, wrth adrodd yr hyn a fyddai Duw yn ei wneud i'w henaid, yn sirioli, adfywio a gwroli ei chyfeillion yn fawr. Cafodd y frech goch pan yn blentyn, ac ni bu byth ddiwrnod yn iach; eto, er na fwytaodd mewn hyfrydwch, ni rwgnachodd ond edrychai ar ryw rai ac a fyddai yn waeth allan na hi, a dysgodd fod yn foddlon yn y sefyllfa ag yr oedd ynddi; ie, bu oddefgar mewn cystudd, yn llawen mewn gobaith, ac yn dyfal barhau mewn gweddi hyd y diwedd. Yr oedd yn gwaelu o hyd y ddwy flynedd ddiweddaf, ac yn dysgwyl dydd ei hymddatodiad. Nid morwyn ffol oedd wedi esgeuluso ymofyu am olew, hyd ddydd ei marwolaeth, canys yr oedd yn marw beunydd, ac wedi ymbarotoi i gyfarfod a'i Duw, a phan daeth yr adeg cafodd huno yn yr Iesu a'i gollwng mewn tangnefedd,
"Heb ofni'r glyn
Na cholyn angeu mwy,"
canys tystiai yn groyw y noswaith cyn marw, wrth yr ysgrifenydd, fod ei Duw gyda hi, a'i wialen a'i ffon yn ei chysuro.
Dydd ei chladdedigaeth ymgasglodd torf luosog n Gymry a Saeson i'w danfon i dŷ ei hir gartref. Cariwyd ei ehorph i'r capel, ac anerchwyd y gynulleidfa gan Ev. Griffith yn Gymraeg a chan Mr. Speneer yu Saesonaeg. Wedi hyny aed a hi, yn ôl ei dymuniad, i fonwent Deertield, i'w chladdu yn ymyl ei thad; ac anerchwyd y gwyddfodolion wrth y bedd gan y Parch. W. D. Willianis, Deerfield. Pregethwyd y Sabboth canlynol yn Utica ar yr achlysur gan Ev. Griffith, oddiwrth Salrn 91: 13—10.