MISS. MARY JONES, QUINCY, BOSTON, MASSACHUSETTS.

Ionawr 12fed, 1850, o'r darfodedigaeth, yn nhŷ Mr. John Thomas, yn 22 mlwydd oed, Miss Mary Jones.

Ar y dydd canlynol ymgasglodd y Cymry ac eraill i hebrwng ei chorph marwol i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw. Cyn cychwyn anerchwyd y dorf a gweddiwyd gan Mr. Gool, gweinidog y Trefnyddion Wesleyaidd.

Merch ydoedd y chwaer drancedig i Robert ac Ann Jones, Tre y Garth, plwyf Llandegai, swydd Gaernarfon.

Cafodd y fraint o ymuno â chrefydd gyda y Trefnyddion Wesleyaidd yn nghapel Seilo, yn y lle uchod, ag oedd y pryd hyn dan ofal y Parch. Rowland Hughes.

Daeth drosodd i'r wlad hon yn nechreu mis Mehefin, yn y flwyddyn 1847, a glynodd gyda yr achos goreu yma hefyd hyd ddydd ei marwolaeth.

Y mae angau glâs a'i gledda'
Yn tramwya yma a thraw,
Y mae'n tori hen ac ieuanc,
Gan eu rhoi yn rhych y rhaw,
Fe ddaeth heibio i ni yn Quincy,
Torodd un i lawr i'r bedd,
Ond er hyny'r wy'n hyderu
Ei bod hi fry yn ngwlad yr hedd.

Dwy ar hugain o flynyddau
Gafodd ar y ddae'r i fyw,
Yn moreuddydd teg ei bywyd
Ymuno wnaeth ag eglwys Dduw:
Braint yw cael bod gyda 'r achos,
Tra b'om yn yr ochr hyn,
Mwy fydd cael bod gydâ'r teulu
Yn canu'n fry ar Sion fryn.

Pan â'r newydd yma i Gymru
Cyrhaedda galon mam a thad,
Wrth feddwl bod ei hanwyl blentyn
Yn farw mewn estronol wlad,
Bydd ei brodyr a'i chwiorydd
Yn wylo'n drwm a'u bron yn brudd,
Pan y clywont hwy bod Mary
Yn gorwedd yn ei gwely pridd.

Anwyl Gymry yma yn Quincy,
Dyma ini rybydd dwys,
Buan iawn y rhoddir ninau
I orwedd dan y geuad gwys,
Tra 'n ein iechyd ymofynwn
Am gael rhau yn Iesu gwiw,
Yna pan daw diwrnod marw
Nid rhaid ofni cwrdd â Duw.
LAURA GRIFFITH.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1850.