MR. RICHARD JONES, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Gwrthddrych y cofiant hwn ydoedd fab i'r hen flaenor, John Jones, Tan-y-castell, Dolyddwyddelen, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, a brawd i'r gwyr cyhoeddus, y Peirch. John Jones, Talsarn, David Jones, Caernarfon, a William Jones, Welsh Prairie, Wisconsin.Gofalodd ei rieni am iddo ef, ei frodyr, a'i chwiorydd, gael eu meithrin yn eglwys Dduw. Pan oedd gwrthddrych ein cofiant yn 8 mlwydd oed, cafodd ei amddifadu o'i anwyl dad, a gadawyd ef, a phedwar o frodyr a phump o chwiorydd, a'u mam alarus i ofal Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon. Pan oedd yn 13 oed trefnodd Rhagluniaeth iddo ymsymud oddicartref; collodd y fraint o fwynhau cynghorion mam dduwiol a llafurus. Achlysurodd y symudiad iddo laesu dwylaw gyda chrefydd i'r fath raddau fel y cefnodd ar y Tŷ; ond trwy y cyfnod hwnw, arosodd addysgiadau a chynghorion ei rieni yn fywiog ar ei gydwybod, a'i dystiolaeth alarus ar hyd ei oes ydoedd y dymunasai, pe gallesid, ddadgysylltu y pedair blynedd y bu o'r tu allan i furiau yr eglwys oddiwrth flynyddoedd ei oes.
Pan ydoedd oddeutu 18 mlwydd oed, ymwelodd Duw yn rasol â rhanau helaeth o swydd Feirionydd a swydd Gaernarfon, ac yn mysg cymydogaethau eraill, Trefriw, ger Llanrwst, lle yr arosai yntau. Cydiodd crefydd yn rymus yn ei galon, a chydiodd yntau mewn crefydd yn yr oll o honi. Yn yr adeg hono daeth grym ei feddwl, nerth ei dalentau, a hyawdledd ei ddawn i'r golwg yn ddysglaer. Bu am amser maith bron yn mhob cyfarfod crefyddol yn tori allan mewn llawenydd a gorfoledd, yn yr olwg ar drefn y cadw, a phob amser tywalltai allan ei deimladau gyda chawodydd o ddagrau.
Yn ebrwydd wedi ymuno â'r eglwys ymroddodd i ymwthio at sylfeini egwyddorion crefydd, a chynhyrfodd Meistr mawr y gwaith ei feddwl ef a lluaws o'i gyd-ieuengctyd, i ymgyfarfod a'u gilydd ar amserau i ymchwilio i mewn i egwyddorion crefyddol, ac i ymresymu mewn ysbryd barn a chariad, ac yn ngoleu yr Ysgrythyrau, ar byngciau sylfaenol crefydd, a thrwy yr ymroddiad hwnw o'i eiddo, yn nghyda llafur personol nos a dydd trysorodd ystôr o wybodaeth Ysgrythyrol, yr hon a fu yn arfogaeth gadarn iddo trwy ei oes.
Yn ei ymdriniaeth â phob pwngc y gafaelai ynddo, dangosai y fath rymusder meddwl fel yr ennillodd radd dda yn nghydwybodau ei frodyr hen ac ieuaingc, a mynych mewn pethau o bwys y galwai yr hen flaenoriaid am ei gymhorth. Yn ôl tystiolaeth rhai a'i hadwaenent yn ei ieuengctyd, yr oedd fel duweinydd a rhesymwr yn dalach o'i ysgwyddau na'i gyfoedion ieuaingc; ie na'i frodyr talentog. Amryw bethau dyddorol oeddent mewn cysylltiad â'r cyfnod hwnw o fywyd ein brawd. Yr oedd ganddo oddeutu tair milldir o ffordd i'r lle y cynnelid moddiongras, ac yn agos i'r ffordd yr oedd craig fawr, yr hon a fu yn Fethel iddo, canys yno yr addunedodd adduned i Dduw; teimlai yn gynnil wrth son am yr hen gyfammod a wnaed yno, a thybir fod rhyw bethau wedi eu selio rhyngddo a'i Dad yno, nad oes neb ond hwy eu dau yn wybyddus ohonynt: ond addefodd iddo ymrwymo na byddai iddo fyned heibio yr hen graig heb droi yno i weddio, a phan elai, yn gyffredinol byddai yn cael y fath gymdeithas â Duw fel yr anghofiai oriau amser. 0 na chaem le i ddeall fod ieuengctyd ein cenedl yn y dyddiau hyn yn gwneyd y fath ymroddiad personol i'r Arglwydd, fel y gallai yntau trwy holl helyntion eu bywyd eu dyddanu a'i addewid i Israel gynt, "Eto mi a gofiaf fy nghyfammod â thi yn nyddiau dy ieuengctyd, ac a sicrhaf i ti gyfammod tragywyddol."
Pan yn 26 oed, ymunodd mewn priodas ag Ann, unig ferch yr hen flaenor, Evan Owens, yr hwn a fu yn un o ddau yn gychwynol i'r achos crefyddol yn Llanrwst, ac yn blaenori eglwys Crist am 50 mlynedd. Treuliasant y chwe' blynedd cyntaf yn Llanrwst, yna symudasant i Dolwyddelen, hen gartref ein brawd, Tan-y-castell, lle y preswyliasant hyd eu hymadawiad o Gymru.
Dolwyddelen sydd gymydogaeth fynyddig, ei harwynebiad sydd greigiog a diffrwyth, fel y dywedodd un o'i hen breswylwyr cyntefig am ei fferm yno, "na wyddai ef i ba beth y gwnaethai Duw hi, ond yn unig rhag iddo ei gadael yn dwll yn y ddaear." Eto y mae wedi bod yn gartref nodedig i grefydd y ganrif hon, a Duw wedi defnyddio ei hawyr iach, a'i haberoedd gloywon, er meithrin cyrff grymus at wasanaeth ei deyrnas; ac ogofau ei chreigiau ydynt wedi bod yn athrofâau lle y dysgodd ei bechgyn araethyddiaeth Pen Calfaria. Nid yw Tan-y-castell ond annedd ddi-addurn yn y cwm llwydaidd, eto nyth yw lle y magwyd eryrod ag ydynt yn ehedeg yn nghanol y nef.
Yn mhen y flwyddyn, wedi dychweliad ein brawd i'w fro enedigol, galwyd ef i flaenori yr eglwys yno. Gan ei fod yn feddiannol ar y cymhwysder mawr a nodai y Pen Bugail, sef cariad, bugeiliai a phorthai gyda hyfrydwch; a'r ddau beth arbenig a nodai yr Iesu i fod gan ei ddysgyblion oeddent yn cael eu harfer ganddo, sef callineb y sarff a diniweidrwydd y golomen. Pawb sydd brofiadol o bwysigrwydd y gwaith o flaenori eglwys Dduw ydynt wybodol mai nid syniadau cyfyng a meddwl crebychlyd a wna y tro i fyned trwy y dyrysni a'r adwyau pa rai ag y mae ymddiried y swydd yn eu galw iddynt yn fynych; ond yn hytrach y mae y swyddogaeth yn llyngcu yr enaid grymusaf a'r deall mwyaf coethedig; felly o dan bwys ei swydd ymdeimlai ein brawd nad oedd gan ei enaid mawr ddim yn ormod, ond fod cylch ei swydd yn galw am ei holl alluoedd.
Mewn achosion o bwys yn yr eglwys, ymddygai yn bwyllog a doeth; ei ddull cyffredin fyddai gwrandaw achosion dyrus, a gwrandaw ymdriniaeth ei frodyr â hwy, a chynnwysai ei olygiadau ei hun mewn ychydig eiriau, yr hyn bron yn ddieithriad a fyddai yn ddigon i feistroli'r achos; yn yr eglwys y perthynai, ac yn nghylch cyfarfod misol ei sir, edrychai ei gydswyddogion arno fel y cymhwysaf o honynt i derfynu pob dadl. Yr oedd yn fab tangnefedd; nid oedd dim ond cydwybod yn ormod ganddo i'w haberthu er mwyn tawelwch yn yr eglwys. Bu oddeutu 18 mlynedd yn arweinydd y gân yn ei gynnulleidfa.
Yn y flwyddyn 1845, ymfudodd ef a'i briod a chwech o'u plant i'r rhan hon o'r America. Erbyn hyn yr oedd y byd a chrefydd, un ar bobllaw, yn bloeddio am dano; amgylchiadau teuluaidd mewn gwlad newydd, anghyfannedd, oeddent yn galw am ei ddiwydrwydd a'i ymdrech; ei feibion ufudd a ddysgwylient wrtho i'w cyfarwyddo yn eu gorchwylion ; dull ac iaith estronol y wlad oeddent anffafriol iddo; o'r tu arall, iselder ac eiddilwch achos ei Feistr mawr oedd yn galw am ei egni a'i ffyddlondeb; ac o bawb a welsom, yr hynotaf oedd am ei fywiogrwydd gyda'i orchwylion teuluaidd, ac ar yr un pryd ei ysbryd yngrefyddol a nefolaidd; dangosodd ofal a medrusrwydd neillduol yn nhrefniant yr achos crefyddol pan yn ei wendid yn ein mysg, nid yn unig yn eglwys Welsh Prairie, ond yn y dosbarth amgylchynol, yr oedd i'w adnabod fel Saul yn mysg ei frodyr.
Yn mis Mai diweddaf teimlai adfeiliad nodedig yn ei babell bridd, fel yr analluogwyd ef i ddilyn ei orchwylion teuluaidd. Fel yr oedd ei afiechyd yn trymhau, deallwyd mai afiechyd yr afu, (liver complaint,) ydoedd; effeithiai er cyfodi peswch caled arno; hefyd effeithiai er marweiddio ei gorff, ac mewn modd hynod cloi galluoedd y meddwl; yr oedd yn dra chysglyd o ran ei gorff, a chwynai yn fynych nad oedd ganddo feddwl. Yr effaith dirgelaidd hwnw o eiddo ei glefyd arno yn nghyda'i ofal tyner am deimladau ei deulu, a barodd nad oedd ei ddywediadau crefyddol a'i olygiadau ar ei sefyllfa yn ei ddynesiad i'r byd mawr yn ryw luosog pan yn ei gystudd. Ond pan y gofynid iddo, tystiai ei foddlonrwydd i ewyllys ei Dad tuag ato, a'i barodrwydd o ran ei brofiad ei hun i roddi heibio y tabernacl daearol; y Sabboth olaf y bu byw, er mewn gwendid, dangosai ei fod yn meddu esmwythder enaid, ac ernes o'r etifeddiaeth yr hon oedd ar ei meddiannu ganddo; mewn bloesgedd corff, eto hyder meddwl, crybwyllai y geiriau hyny, "Er nad yw fy nhŷ felly gyda Duw, eto cyfammod tragywyddol a wnaeth efe â mi," a.y., a dywedodd, "Yr wyf am ei fentro byth." Drachefn, y Sabboth, dywedai, "Peth mawr yw cael goleuni yn amser ieuengctyd, a pheth mawr yw cael goleuni yn yr hwyr."
Ar ôl hyny, pan y deallwyd ei fod yn ymdrechu i ddyweyd rhywbeth, ymdrechodd ei briod i'w ddeall; cymaint a ddeallodd ydoedd, "Y tywalltiadau o Galfaria." Cyfododd ei law gan ddiolch a dywedyd, "Pwyswch arno - digon i ni a'n plant - pwyswch arno, fy mhlant anwyl." Dranoeth tystiai "fod Iesu Grist yn well na phawb." Yr oedd yn ymddangos yn hynod o esmwyth; ni bu nemawr boenau gofidus o gwbl arno; ond yr oedd ei elyn diweddaf yn dirgelaidd orchfygu, tra yr oedd ef fel yn cysgu; ac felly y parhâodd hyd brydnawn ddydd Mercher, Medi lleg, pryd y diangodd y preswylydd ysbrydol i'w orphwysfa, yn 51 mlwydd oed, gan adael priod serchog i deimlo a galaru dan bwys ei cholled, a chwech o blant i dywallt dagrau wrth gofio am dad anwyl wedi marw, yr hwn a fu yn ymdrechgar a llwyddiannus i bwrcasu a threfnu cartref cysurus iddynt yn y wlad newydd hon, ac a lwyddodd i'w cartrefu oll yn Seion, y man i'w cymhwyso i'r etifeddiaeth ysbrydol.
Nos cyn y gladdedigaeth yn y tŷ galarus, pregethodd y brawd Griffith Roberts, gweinidog y lle, oddiar Esa. liv. 10. Tranoeth ymgasglodd tyrfa luosog iawn er hebrwng y llygradwy i'r tŷ rhagderfynedig; y cantorion yn blaenoli; canasant yn briodol i'r amgylchiad o'r tŷ galarus hyd lan y bedd; wrth erchwyn y gwely priddlyd, gwnaed sylwadau priodol i'r achos, a gweddiodd y brawd John Jones, pregethwr y lle. Dau fis i'r dyddiau ag yr oeddem yn dodi gweddillion y gwron i gymysgu â'r pridd, yr oedd ef ei hun ar y llanerch hono yn nghladdedigaeth plentyn i gymydog Seisonig, a'r fath oedd parch y genedl estronol iddo fel y dymunasant ar iddo fyned at ei Dduw mewn gweddi yn eu canol, yr hyn a wnaeth yn dra difrifol yn iaith ei dadau, ac er fod yr iaith yn ddieithr, yr oeddent yn adnabod fod ei enaid mewn ymdrech â Duw, fel y synasant, gan ddymuno i ryw gyfaill gyfieithu mater ei weddi. Pawb o'i gymydogion Seisonig a Chymreig a deimlent eu galar ar ei ôl, a'u colled am dano. Ei le yn ei deulu, yr eglwys, ein cyfarfodydd dau-fisol, a'r cymanfäoedd a erys yn wâg, ond "Ei goffawdwriaeth sydd fendigedig," ac a barhâ i berarogli yn hyfryd.
T. ROBERTS.