MR. RICHARD R. JONES, RACINE, WISCONSIN.
Chwefror 7fed, 1850, yn Racine, Wisconsin, yn 37 mlwydd oed, Mr. Richard R. Jones, saer-maen, gan adael gwraig a phedwar o blant i alaru ar ei ôl.Mab ydoedd i Robert a Catharine Jones o'r Gorwyr, ger Dolgellau.
Yn 1837, ymunodd mewn priodas gyda Laura Williams, merch i Edward a Gwen Wiiliams, Tŷ Newydd, Dyffryn Ardudwy, swydd Feirion.
Yn 1841 ymunodd â chrefydd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Llwyngwril.
Yn 1843 ymfudodd ef a'i deulu i'r America ac ymsefydlasant yn Racine, lle y gorphenodd ei yrfa ddaearol ar ôl 3 diwrnod o gystudd.
Fel dyn ac fel cymydog, cerid a pherchid ef yn fawr. Yr ydoedd yn perthyn i'r Gymdeithas Gymreig, Seren y Gorllewin o Racine (Fire Department No. 3, Star of the West of Racine).
Yr oedd yn aelod o eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, ac fe ymddygodd yn hynod ddiddolur llygad gyda'r achos, gan ei fod yn un ag oedd yn gwisgo y cymeriad hwnw, ysbryd tawel, aeddfwyn a llonydd, yr hwn sydd yn werthfawr gan yr Arglwydd. Gweinyddwyd ar achlysur y gladdedigaeth yn y tŷ cyn cychwyn i'r gladdfa, gan y brawd Rees Evans, T. C, ac wrth y bedd gan y Parch. T. M. Hopkins, Heuaduriaethwr.