MRS. JEMIMA OWENS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Awst 4ydd, yn mhlwyf Trenton, Caerefrog Newydd, Mrs. Jemima Owens, priod Mr. Robert R. Owens, yn 66 mlwydd oed.Ymfudodd hi yn nghyd a'i rhieni, Robert ac Ann Jones, i'r wlad hon yn y flwyddyn 1801, o Lanarmon, sir Gaernarfon, a sefydlasant yn mhlwyf Remsen, lle y buont yn trigo hyd ddydd eu marwolaeth. Yr oeddynt a'u plant oll yn arddel crefydd Mab Duw.
Yn 1806 ymunodd mewn priodas â Robert R. Owens, a buont yn cyd fyw am bedair blynedd a deugain ac un mis i'r dydd y bu farw. Bu iddynt 11 o blant, ac nid oes yn awr ond dau yn fyw. Yn fuan wedi priodi ymunodd fy mam a'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben, ac wedi hyny symudodd hi ac amryw eraill at y Trefnyddion Calfinaidd a pharhaodd yn aelod o eglwys Nant, Steuben, hyd ei marwolaeth.
Bu farw yn dawel yn y mwynhad o gysuron crefydd, fel y tystiai ychydig fynydau cyn ymadael - dywedai fod cyfamod wedi ei wneud mewn aberth rhwng ei henaid â'i Phriod - felly yr hunodd yn yr Iesu.
Yr ail ddydd hebryngwyd ei chorph gwael i fonwent Penycaerau, i orwedd yn dawel hyd udganiad yr udgorn diweddaf. Yn y tŷ darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. David Williams, ac yn y capel pregethodd oddiwrth Rhuf. 8 : 10.
Ei hunig fab, Robert T. Owens.