MR. WILLIAM J. OWEN, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 19eg, 1850, yn Marsy, sir Oneida, Caerefrog Newydd, o'r Darfodedigaeth, William J. Owen, brodor o blwyf Llanarmon, sir Gaernarfon.

Daeth i'r wlad yma tua deuddeng mlynedd yn ôl. Treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn Utica a Marcy.

Dyoddefodd gystudd yn amyneddgar am tua chwe' mis. Ymgasglodd lluaws o'i gymydogion a'i gyfeillion yn nghyd ar ddydd ei gladdedigaeth .

Claddwyd ef yn Marcy. Pregethodd y Parch. J. Harvey ar yr achlysur.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1850.