MR. HUMPHREY OWEN, 154 LEWIS STREET, NEW YORK.

Ebrill 30ain, 1850, Mr. Humphrey Owen, 154 Lewis Street, New York, o'r darfodedigaeth, yn 53 mlwydd oed, gan adael gweddw a 6 o blant ar ei ôl.

Gweinyddwyd ar achlysur y gladdedigaeth gan yr ysgrifenydd, a chladdwyd ef yn nghladdfa y Trefnyddion Esgobaethol Williamsburg.

Yr oedd yn enedigol o Aberdaron, swydd Gaernarfon. Cafodd y fraint o wasanaethu a mwynhau crefydd dros dair ar hugain o flynyddoedd. Derbyniwyd ef gan y diweddar Barch. James Davies yn New York, a gweinyddodd y swydd Ddiaconaidd, rhwng Floyd a New York, tua phedair blynedd ar ddeg. Cafodd fodd i fod yn dawel iawn yn ei gystudd nychlyd, ac ymddangosai yn drachymodol â threfn ac amser ei Dad nefol.

Bydded yr oruchwyliaeth hon yn cydweithio â phob goruchwyliaeth arall yn eu perthynas â'r weddw a'r plant a'r perthynasau, idd eu parotoi i'r un wlad ddedwydd, lle y gobeithiwn fod ein hanwyl frawd wedi blaenu.
J. M. Thomas.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mehefin 1850.