MR. OWEN PARRY, JOHN OWEN CHARLES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ebrili 28ain, 1850 yn Utica, Caerefrog Newydd, yn 33 mlwydd oed, o'r Darfodedigaeth cyflym, Owen, mab Gweno a'r diweddar Wm.Parry, gynt o'r Caerau, Clynog, sir Gaernarfon, ond er ys 8 mlynedd yn awr yn y wlad hon, yn nghymydogaeth Utica.Yr oedd Owen Parry yn aelod proffesedig o eglwys y Trefnyddion Calfinaidd er ys yn agos i ddwy flynedd; yr oedd yn ddyn ieuangc esmwyth a dichlynaidd yn ei fywyd cyn ymuno a'r gymdeithas grefyddol, a bu yn nodedig o ddiddolur i eglwys Dduw hyd ei fedd. Un o'i brif benderfyniadau wrth ddyfod i'r eglwys, oedd gwneyd ei oreu o blaid yr achos mawr, ond dywedai yn aml, os na allai wneyd dim da, y byddai yn ofalus hyd a fyddai ynddo rhag gwneyd dim drwg i ddim na neb; amlygodd y penderfyniad hwn yn eglur yn ei holl ymarweddiad. Ni welwyd un mwy diniwed erioed yn ei fywyd, ac wrth farw dangosai ei fod yn feddiannol ar hyder cryf am ddiangfa dragywyddol drwy y Cyfryngwr.
Pregethodd y Brawd Dafydd Williams, Holland Patent yn bwrpasol iawn ar achlysur ei gladdedigaeth oddiar Preg. iv. 2.