MR. RICHARD RICHARDS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
TAN A CHOLLI BYWYD GER SOUTH TRENTON.Nos Sadwrn, Chwefror 2ail, bu anffawd drallodus yn Marcy, tua dwy filltir i'r gorllewin oddiwrth y turnpike gate, South Trenton.
Tŷ Mr. Richard Richards, amaethwr, a gymerodd dân yn y nos, tra yr oedd y teulu yn dawel yn eu gwelyau, a thuag 1 o'r gloch yn y boreu deffroisant pan yr oedd yr elfen angerddol wedi enill grym mawr.
Gallodd Mrs. Richards gyda ei phlentyn ieuengaf ffoi drwy dori drwy y ffenestr, ond clwyfwyd hi rywfaint gan y gwydr wrth fyned. Ei phriod hefyd a ddaeth allan, ond aeth yn ôl eilwaith i ymofyn am ei blentyn hynaf, bachgen tua 5 oed, a thybir iddo geisio ymofyn am ryw bapurau o'r bureau, ond cyn gallu dyfod allan cwympodd y llofft odditano, a llosgodd ef a'i blentyu i farwolaeth.
Y gweddillion marwol a ddodwyd yn y bedd y dydd Llun canlynol yn monwent South Trenton. Effeithiodd y tro ddwysder a braw mawr drwy'r ardal. Yr oedd Mr. Richards yn fab i'r diweddar Barch. Joseph Richards, gynt o Lanuwchllyn, gweinidog y Bedyddwyr yn y lle. Enyniad y gwreichion mewn lludw a gedwid yn y tŷ coed, a'r noson yn wyntiog, a achosodd y dinystr aruthrol hwn.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1850.
MR. RICHARD RICHARDS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
TY-LOSGIAD BRAWYCHUS AC ANGEUAWL.
Boreu Sabboth, y 3ydd o'r mis diweddaf, taflwyd trigolion South Trenton, Holland Patent, a phlwyf Marcy, swydd Oneida, Caerefrog Newydd, i fraw, dychryn, a galar anghyffredin, mewn canlyniad i losgiad ty Mr. Richard Richards o gymydogaeth y lle blaenaf, a thua dwy filldir o dafarn Joy, a dinystr bywyd Mr. Richards ac un o'i blant gan yr elfen ffyrnigwyllt. Cynnwysai y teulu anffodus, Mr. Richards,ei wraig, dau blentyn a dau lettywr; un o ba rai, sef brawd i Mrs. Richards, a fuasai mewn ysgol ganu nos Sadwrn, heb allu dyfod adref nes ydoedd tuag 11 ar gloch.Yr oedd y lleill oll yn eu gwelŷau pan y daeth adref. Wedi eistedd ychydig, clywai ryw swn yn y tŷ coed, ond ar ol agor y drws i edrych, ac heb ganfod dim yn wahanol i arfer, aeth i'w wely, gan dybied mai cathod, llygod, neu ryw beth cyffelyb a allasai fod yno yn peri y cyffro a glywsai, a chysgodd yn ddioed. Rywbryd tua chanol nos deffrôdd Mrs. Richards, a meddyliodd ei bod yn clywed sŵn tan, ond meddyliodd drachefn y gallasai fod ei brawd wedi dyfod adref a gwneyd tan yn y stove, ac efelly gadawodd y peth yn ddisylw, a chysgodd yn fuan; ond deffrowyd hi yr ail waith gan swn tân mawr yn llosgi yn gryf. Cododd y pryd hwn, agorodd ddrws y gegin, a chanfu olygfa echryslawn — y tŷ yn fflamio! Heb gau y drws, dychwelodd, dan waeddi, "Richards, mae y tŷ ar dan!"
Yr oedd efe mewn trwmgwsg, ond neidiodd mewn eiliad, a'r peth cyntaf a wnaeth oedd rhedeg trwy gongl o'r gegin i ystafell wely arall, lle y cadwai ei arian a'i notes, a'i holl lyfrau a phapyrau gwerthfawr. Yn y cyfamser diangodd Mrs. Richards a'r plentyn ieuangaf, yr hwn oedd tua 3 blwydd oed, trwy ffenestr yr ystafell wely, ond nid heb losgi ei gwyneb, ac archolli ei hun â'r gwydr. Erbyn hyn yr oedd ei brawd John Parry a'i nai, wedi deffro hefyd, a diangc trwy ffenestr arall. Yn awr yr oedd pawb yn ddiangol ond gwr y tŷ a'r plentyn hynaf, tua 5 mlwydd oed, a safai y fam a'i phlentyn ieuangaf heb ond ychydig iawn i'w cysgodi rhag oerder yr hin, yn y pryder mwyaf poenus yn dysgwyl, eithr echrydus yw gorfod dweyd, mai buan iawn y trodd ei dysgwyliad yn anobaith; rhyw fodd neu gilydd, bernir i'r gwr gipio y gwely a'r plentyn hynaf, a cheisio eu taflu trwy y ffenestr - ond syrthiodd y llofft llosgadwy arnynt, ac aethant yn ysglyfaeth i'r elfen ddinystrio! yn y fan.
Clywodd y wraig ei gwr yn ei galw ddwywaith wrth ei henw, " Elizabeth," a chlywodd ei phlentyn anwyl yn gwneyd swn wylo, ond dyna'r cwbl. Yr oedd y gwynt yn lled gryf a'r tân yn ei lawn rym, a braich o gnawd yn rhy fyr i estyn ymwared.
Brawychwyd y gymydogaeth yn fuan â'r bloeddiadau "Tan! Tan!" a daeth yno lawer yn nghyd yn ddioedi, ond yn rhy ddiweddar i fod o ddim cymhorth. Llosgwyd y cwbl. Ar ol i'r tan arafu, aethpwyd i chwilio am y ddau gorff; cafwyd corff Mr. Richards wedi dychwelyd i'r ystafell wely; yr oedd y bachgen wedi ei iosgi yn lludw hyd at ychydig o'i esgyrn, a'r tad a'i ben a'i freichiau yn lludw, ac y mae yr olwg oedd ar y gweddill o honynt yn haws ei ddychymygu na'i ddesgrifio.
Dodwyd hyny o weddillion a gafwyd o'r ddau yn yr un arch, ac hebryngwyd hwynt dranoeth i gladdfa y Bedyddwyr yn South Trenton gan dyrfa luosog a dychrynedig - y dyrfa fwyaf a welwyd erioed yn yr ardaloedd hyny. Ar yr achlysur, dechreuodd y Parch. W. D. Williarns, (A.,) a phregethodd y Peirch. T. Owens, Holland Patent, yn Saesonaeg, a'r Parch. Robert Williams, oddiar Jer. vi. 10-12, yn Gymraeg.
Yr oedd Mr. Richards yn fab i'r diweddar Barch. Joseph Richards, o gyfundeb y Bedyddwyr, tua 43 mlwydd oed, a daeth i'r wlad hon gyda'i dad a'r lleill o'r teulu, yn y flwyddyn 1818, o Lanuwchlyn, sir Feirionydd.
Bernir yn ddiamheuol mai yn y faril lludw, yr hon a gedwid yn y coed-ty, y dechreuodd y tân. Cafodd yr ardal golled yn marwolaeth Mr. Richards, o gymydog siriol a chymwynasgar, a meddyg anifeiliaid da. " Atebi ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth."